Gwella eich perfformiad busnes mewn byd sy'n gynyddol gystadleuol.
Mae Tyfu Cymru yn cefnogi busnesau ar draws sector garddwriaeth Cymru; bwytadwy ac addurnol, mawr a bach, organig a heb fod yn organig a’r rheini sy’n dilyn egwyddorion organig.
Y cam cyntaf i gael hyfforddiant a chymorth gan Tyfu Cymru yw cwblhau Adolygiad Busnes. Mae hwn yn gyfle i chi ein cyflwyno i’ch busnes a dangos pa feysydd y byddech chi’n hoffi cymorth gyda nhw. Ar ôl cwblhau’r adolygiad busnes, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda rhagor o wybodaeth.
Cyn cwblhau Adolygiad Busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwyster canlynol:
- Rwyf wedi cofrestru (neu byddaf cyn bo hir) fel busnes garddwriaeth masnachol
- Mae’r busnes yng Nghymru
- Rwyf yn rhoi fy nghaniatâd i ymgysylltu â’r prosiect ac, os oes angen, byddaf yn darparu tystiolaeth a gwybodaeth i gefnogi meini prawf adrodd y prosiect.
Dylai’r adolygiad gymryd tua 15 munud. Os cewch chi unrhyw broblemau neu os hoffech chi ragor o arweiniad, cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk
Dechrau Nawr...