Pwy yw Tyfu Cymru?
Mae Tyfu Cymru yn brosiect sy’n cefnogi busnesau garddwriaeth yng Nghymru, sydd wedi’i ariannu hyd at fis Mawrth 2023.
Mae’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru yn wynebu prinder sgiliau ond mae llawer o gyfleoedd ar gael iddo hefyd. Nawr yw’r amser delfrydol i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael i chi a sicrhau bod eich busnes garddwriaeth masnachol yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
Mae ein cefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion chi, rydym yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd ei angen arnoch i dyfu eich busnes, a theilwra cynllun hyfforddiant a datblygu sy’n gweddu eich anghenion chi. Mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy gronfa o arbenigwyr y diwydiant, gan sicrhau bod y cyngor sydd ei angen ar gael i chi.
Mae Tyfu Cymru yn cael ei ddarparu drwy Lantra Cymru, sy’n cefnogi unigolion a chwmnïau yn y sector tir a’r amgylchedd i gyflawni twf personol a busnes.
Mae Tyfu Cymru wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni.
Lantra UK yw un o’r prif gyrff dyfarnu ar gyfer diwydiannau tir yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae Lantra yn datblygu cyrsiau hyfforddiant safonol a chymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, sy’n cael eu darparu drwy rwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Darparu hyfforddiant.