Sam Davies

Ymunodd Sam â Lantra ym mis Ebrill 2019.

Mae profiadau blaenorol Sam yn cynnwys trefnu Pencampwriaethau Cneifio y Byd 2010, Digwyddiad Tir Glas Brenhinol Cymru 2012 a Phencampwriaethau Aredig a Phlygu Gwrych Cymru Gyfan 2016. Gyrfa ym maes gweinyddu a threfnu digwyddiadau sydd gan Sam, a fydd yn allweddol i rôl Cydlynydd Tyfu Cymru. Sam yw Ysgrifennydd Cymdeithas Aredig a Phlygu Gwrych Llanfair-ym-Muallt, ac Ysgrifennydd Defaid ei Sioe Amaethyddol leol. Mae hi hefyd yn weithgar iawn yn ei Chlwb Ffermwyr Ifanc lleol.