
Mae Tyfu Cymru yn darparu cymorth a hyfforddiant sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn meithrin gallu a chapasiti’r sector garddwriaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi i baratoi tyfwyr a chwmnïau garddwriaeth y cynhyrchwyr i addasu ar gyfer heriau economaidd ac amgylcheddol, ac i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad i ddatblygu a thyfu.
Mae Tyfu Cymru yn gallu cefnogi’r rhan fwyaf o fusnesau masnachol ar draws sector garddwriaeth Cymru; bwytadwy ac addurnol, mawr a bach, organig a heb fod yn organig, mentrau newydd a busnesau sydd wedi hen ennill eu plwyf.
Mae’r holl hyfforddiant a chymorth yn cael eu hariannu’n llwyr gan Tyfu Cymru
Cymhwysedd
I fod yn gymwys i gael cymorth, mae’n rhaid i chi fod yn fusnes garddwriaeth fasnachol cofrestredig (neu byddwch chi’n cofrestru cyn bo hir) ac wedi’ch lleoli yng Nghymru. Os ydych chi’n bodloni’r gofynion hyn, ar ôl i chi gwblhau Adolygiad Busnes gallwch gael gafael ar yr ystod lawn o gymorth gan y prosiect.
Beth allwn ni ei gynnig?
Mae Tyfu Cymru yn chwilio am arbenigwyr yn y diwydiant i ddarparu gweithdai a hyfforddiant sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer anghenion y tyfwr. Dyma rai enghreifftiau o’r meysydd rydyn ni’n eu cwmpasu ar hyn o bryd:
• Datblygu Busnes
• Hyfforddiant Cydymffurfio gan gynnwys cymorth cyntaf, codi a chario ac iechyd a diogelwch
• Rheolaeth ariannol
• Marchnata Digidol gan gynnwys cymorth gyda gwefannau adeiladu, cyfryngau cymdeithasol a marchnata e-bost
• Seiberddiogelwch
• Achrediad Tyfwyr
Rydyn ni hefyd yn hwyluso hyfforddiant garddwriaeth dechnegol gyda thyfwyr arbenigol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae ein hyfforddiant diweddaraf wedi cwmpasu’r canlynol:
• Tyfu cnydau ar gyfer hadau
• Iechyd Pridd ar gyfer tyfwyr masnachol
• Compostio ac Adeiladu Pridd “Dim trin”
• Rheoli Plâu mewn modd Integredig
Ewch i’n tudalen Gweithdai a Digwyddiadau i gael manylion am y digwyddiadau hyfforddi sydd ar y gweill.
Ers mis Mawrth 2020 rydyn ni wedi gallu darparu nifer o’n gweithdai a’n digwyddiadau ar-lein. Rydyn ni’n parhau i ddilyn canllawiau'r Llywodraeth mewn cysylltiad â Covid-19 a byddwn yn darparu rhagor o fanylion am ddigwyddiadau wyneb yn wyneb wrth i’r rheoliadau newid.
Rydyn ni’n gweithio gyda’n darparwyr hyfforddiant arbenigol i greu pecynnau cymorth ac adnoddau, sydd ar gael i chi ar Hyb Gwybodaeth Tyfu Cymru. Mae recordiadau o weminarau digwyddiadau blaenorol ar gael yma hefyd. Mae’r Hyb Gwybodaeth yn canolbwyntio ar 12 prif faes, gan gynnwys dosbarthu pridd a thir, technoleg a thechnegau newydd, a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae gennym ni wyth rhwydwaith arbenigol i dyfwyr sydd eisiau cymorth ar gyfer meysydd garddwriaethol penodol. Mae’r rhain wedi’u rheoli gan arbenigwyr yn y diwydiant ac maen nhw’n cynnwys gwahanol fathau o bwmpenni, ffrwythau coed, ffrwythau meddal, llysiau, hadau, addurnol, coed Nadolig a blodau Cymru. Mae pob rhwydwaith yn addasu i ofynion ei aelodau ac yn defnyddio llwyfannau fel WhatsApp a Facebook i gyfnewid gwybodaeth gan arbenigwyr a rhwng cymheiriaid.
Mae gennym ni arbenigwyr a chynghorwyr wrth law i ddarparu cymorth pwrpasol i fusnesau y mae ei angen arnynt. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o help i sefydlu siop ar-lein, i edrych ar y posibilrwydd o arallgyfeirio i gynhyrchu ffrwythau meddal. Gellir darparu cymorth ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar yr angen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha gymorth y gallwn ni ei gynnig i’ch busnes, cysylltwch â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk