
Rhaglen Datblygu Proffesiynol Garddwriaeth Tyfu Cymru
Bydd rhaglen hyfforddi newydd, a fydd yn cael ei lansio yn ystod Hydref 2020, yn rhoi ystod o’r sgiliau masnachol i fusnesau garddwriaeth yng Nghymru y bydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu ac i baratoi’r diwydiant ar gyfer y dyfodol.
Bydd busnesau cymwys yn cael mynediad at raglen o ddosbarthiadau meistr a hyfforddiant wedi’i theilwra’n bwrpasol mewn arweinyddiaeth a gyflwynir gan Dyfu Cymru a’u rhwydwaith o arbenigwyr. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at berchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr mewn busnesau garddwriaeth uchelgeisiol. Mae’r rhaglen yn cynnig hyblygrwydd er mwyn gallu gweithio o amgylch amserlen brysur y rhai sy’n ei dilyn.
Gellir cwblhau’r rhaglen mewn 1 flwyddyn a rhaid i’r busnesau sy’n cymryd rhan fynychu o leiaf 5 dosbarth meistr sy’n para diwrnod cyfan.
Mae’r dosbarthiadau meistr yn cynnwys:
- Arweinyddiaeth, strategaeth a gweledigaeth
- Datblygu busnes a chyllid
- Marchnata strategol
- Cyflogi, cadw a rheoli pobl
- Digidol, y we a chyfryngau cymdeithasol
- Rheoli newid ac arloesi
- Deunydd pacio ac effeithlonrwydd prosesau
- Rheoli’r gadwyn gyflenwi
- Cynllunio ar gyfer olyniaeth
Gweminarau byrion
I roi rhagflas o’r rhaglen mae cyfres o weminarau byrion yn cael eu datblygu, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bynciau i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu busnesau garddwriaeth yn ystod y pandemig COVID-19.
I wirio a ydynt yn gymwys mae busnesau’n cael eu gwahodd i gwblhau arolwg 2 funud syml ar-lein drwy fynd