Iain Cox
Mae gan Iain brofiad helaeth mewn dylunio rhaglenni ar gyfer asiantaethau datblygu gwledig, llunwyr polisi a sefydliadau cymorth busnes, ac o baratoi strategaethau twf arloesol, brandiau, cynnyrch a gwasanaethau sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, sy’n gadarn yn fasnachol ac sy’n ymarferol o ran eu cyflawni.
Mae ganddo MSc mewn Gwneud Penderfyniadau Amgylcheddol ac mae’n ymarferydd sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol mewn Ôl Troed Dŵr, Enillion Cymdeithasol a Rheoli Prosiectau. Mae’n hyfforddwr a mentor profiadol ac mae ganddo’r cymhwyster Paratoi i Addysgu.
Ers 2000 mae wedi gweithio â llawer o sefydliadau tir mewn cadwynau cyflenwi garddwriaethol a bwyd yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2016 enillodd wobr ‘Hyrwyddwr Cynaliadwyedd’ am ei waith a’i arweinyddiaeth arloesol mewn datblygu cynaliadwy.
Mae wedi ysgrifennu sawl cyhoeddiad academaidd ar gadwynau cyflenwi cynaliadwy a datblygu gwledig yng Nghymru ac mae wedi gwneud cyflwyniadau ar ran Llywodraeth Cymru mewn cynadleddau yn Japan a Brwsel. Yn ddiweddar bu’n cadeirio trafodaeth banel mewn cynhadledd ar gyfer Canolfan Bwyd Cymru a chyflwynodd brif gyflwyniadau ar yr Economi Gylchol yn Fforwm Polisi Cymru.
Evan Williams
Mae Evan wedi gweithio’n ffordd i uwch rôl, mewn corfforaeth fancio fyd-eang ac roedd yn cael ei weld fel ‘wyneb cyhoeddus credyd’ ledled y DU. Roedd Evan a’i dîm yn gyfrifol yn bersonol am fenthyca dros £300m y mis gyda darpariaeth dyled ddrwg o lai na 0.05%.
Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd Evan brosesau a systemau safonol ar draws y swyddogaeth gredyd corfforaethol a gafodd eu cyflwyno’n genedlaethol ac sydd yn dal ar waith heddiw. Roedd hefyd yn gyfrifol am ailstrwythuro ac adeiladu tîm bancio corfforaethol y DU a oedd yn gweithio â chwsmeriaid busnes twf uchaf a mwyaf dylanwadol y banc.
Yn ystod ei yrfa mae Evan wedi gweld miloedd o gynlluniau busnes a chynigion buddsoddi, gan ddeall y ffordd orau o sicrhau cyllid i fusnesau o bob maint a’r gwahanol lwybrau twf i lwyddiant.
Gan ddefnyddio ei arbenigedd, mae wedi sefydlu Ymgynghoriaeth Ddysgu sy’n cynnig gweithdai e-ddysgu a datblygu i sawl sefydliad rhyngwladol sy’n darparu rhaglenni hyfforddi a datblygu pwrpasol i helpu i gyflawni eu cynlluniau twf. Yn sgil ei brofiad, gofynnwyd i Evan arwain Gweithdy Hanfodion Twf Busnes Cymru sy’n helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy edrych sut y gallant gynyddu eu busnes, deall y farchnad a strategaethau treiddio, cyn symud ymlaen i edrych ar wahanol ffyrdd o ariannu twf y busnes.
Mae Evan yn un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Theatr Iolo, cwmni theatr sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n perfformio ledled y byd ac sy’n cynnig cymorth i dalentau ifanc sy’n datblygu. Mae hefyd yn aelod o’r Gymdeithas Ddaearegol, yn Gydymaith o Sefydliad Siartredig y Rheolwyr Credyd (CICM) a’r Sefydliad Siartredig Bancio a Chyllid (CIBF).
Sarah Lethbridge
Sarah yw’r Cyfarwyddwr Addysg Weithredol a Chysylltiadau Allanol yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth o ddylunio a chyflwyno rhaglenni addysg pwrpasol ar gyfer ystod o sefydliadau gwahanol. Ymunodd Sarah â Chanolfan Ymchwil Mentergarwch Lean yr Ysgol Fusnes yn 2005 ar ôl iddi gael ei recriwtio fel Uwch Ymchwilydd mewn 'Service Lean' h.y. deall sut i drosglwyddo’r fethodoleg ac athroniaeth gwella gweithgynhyrchu i fyd gwasanaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ‘lean’ mewn ysbytai, prifysgolion a gwasanaethau cyhoeddus a phreifat. Mae wedi cyflwyno nifer o raglenni addysg weithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Nestlé, Legal and General a Chymdeithas Adeiladu’r Principality i’w helpu i sicrhau bod eu dulliau gweithredu sefydliadol o wella yn gyfannol a chynaliadwy.