Mae’r dangosfwrdd hwn yn crynhoi’r pecyn a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n darparu’r camau i’w cymryd yn benodol o safbwynt yr hyn y gall busnesau Cymreig gael gafael arnynt. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth a ryddhawyd gan Fanc Lloegr a banciau’r stryd fawr ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael.
Mae’r wybodaeth am gymorth i fusnesau yn datblygu’r gyflym. Mae Busnes Gymru yn adolygu cynnwys eu gwefan yn barhaus a dylem fod yn annog busnesau i fynd i https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws
Sylwer bod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym a bod y cymorth sydd ar gael a’r camau i’w cymryd i fusnesau yng Nghymru yn debygol o newid. Bydd angen i’r nodyn hwn felly gael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Cofiwch edrych ar ddyddiad y diweddariad diwethaf ar waelod y ddogfen cyn defnyddio’r wybodaeth hon.
Cymorth i Fusnesau gan Lywodraeth Cymru https://businesswales.gov.wales/cy
Busnes Cymru
Banc Datblygu Cymru
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Banc Datblygu Cymru neu ffoniwch 0800 587 4140.
Cymorth i Fusnesau gan Lywodraeth y DU – ar draws y DU gyfan https://www.businesssupport.gov.uk/coronavirus-business-support/
Beth |
Manylion |
Cyhoeddiad Llyw y DU |
Camau i’w Cymryd |
Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes
|
Bydd y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes dros dro yn sgil Coronafeirws yn cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint drwy gynnig iddynt fenthyciadau, gorddrafftiau, cyllid ar gyfer anfonebau, a chyllid asedau o hyd at £5 miliwn ac am hyd at chwe mlynedd. Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn gwneud Taliad Tarfu ar Fusnes ar gyfer taliadau llog y 12 mis cyntaf ac ar gyfer unrhyw ffioedd a godir gan roddwyr benthyciadau, felly bydd busnesau llai yn elwa oherwydd na fydd costau ymlaen llaw i’w talu a bydd yr ad-daliadau cychwynnol yn is. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi i roddwyr benthyciadau warant o 80% ar bob benthyciad (yn ddarostyngedig i gap a roddir ymlaen llaw ar hawliadau) i roi i roddwyr benthyciadau fwy o hyder i barhau i ddarparu cyllid i BBaChau. Caiff y cynllun ei gyflwyno drwy roddwyr benthyciadau masnachol, gyda chefnogaeth Banc Busnes Prydain sy’n eiddo i’r Llywodraeth. Ceir 40 o roddwyr benthyciadau sy’n gallu gynnig y cynllun, gan gynnwys yr holl brif fanciau. Mae busnesau’n gymwys ar gyfer y cynllun: - os yw’r busnes wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig, gyda throsiant heb fod dros £45 miliwn y flwyddyn - os yw eich busnes yn bodloni meini prawf cymhwyso eraill Banc Busnes Prydain
Sut wyf fi’n ymgeisio? I ymgeisio, dylai busnesau siarad â’u banc neu ag un o’r 40 darparwr cyllid achrededig sy’n cynnig y cynllun (ac nid Banc Busnes Prydain) cyn gynted â phosibl i drafod eu cynllun busnes â nhw. Gall busnesau weld y diweddaraf ar y ffyrdd gorau o gysylltu â nhw drwy eu gwefannau. Sylwer y gallai canghennau fod ar gau ar hyn o bryd er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol. Mae rheolau llawn y Cynllun a’r rhestr o roddwyr benthyciadau achrededig ar gael ar wefan Banc Busnes Prydain. Os oes gan fusnesau eisoes fenthyciad y maent yn ei ad-dalu’n fisol, mae’n bosibl yr hoffent ofyn am wyliau rhag ad-dalu i’w helpu â llif arian. |
|
Bydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru drwy un o’r 40 darparwr cyllid achrededig
Mae gan Banc Datblygu Cymru gyllid ecwiti a benthyciadau ar gael ar unwaith i fusnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos â Banc Datblygu Cymru i ystyried cymorth ychwanegol i helpu busnesau drwy effaith Covid-19.
Dylai busnesau sydd â chyllid eisoes drwy gyfrwng Banc Datblygu Cymru, ac sy’n pryderu am ad-daliadau, gysylltu â’r Banc yn uniongyrchol i drafod.
Mae’r cynllun yn awr ar agor i dderbyn ceisiadau. Mae’r holl brif fanciau yn cynnig y cynllun hwn.
|
Cyfleuster Cyllido Corfforaethol COVID-19 |
Mae Cyfleuster Cyllido Corfforaethol Covid-19 (CCFF) yn golygu y bydd Banc Lloegr yn prynu dyledion tymor byr oddi wrth gwmnïau mwy. Bydd hwn yn cynorthwyo cwmnïau sy’n gryf yn y bôn, ond y mae gwasgfa ariannol tymor byr yn effeithio arnynt. Bydd hefyd yn cynorthwyo’r marchnadoedd cyllid corfforaethol yn gyffredinol ac yn hwyluso cyflenwad credyd i bob cwmni. Ariennir y cynllun drwy arian wrth gefn y banc canolog – yn unol â gweithrediadau marchnad eraill Banc Lloegr. Bydd yn gweithredu am o leiaf 12 mis, ac am gyn hired ag y bo’r camau’n angenrheidiol i leddfu’r pwysau sydd ar lif arian mewn cwmnïau sy’n gwneud cyfraniad pwysig i economi’r DU. Mae cwmnïau – a’u his-gwmnïau cyllid – sy’n gwneud cyfraniad pwysig i economi’r DU yn gallu cyfranogi yn y cyfleuster. Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i’w chael ar wefan Banc Lloegr. Er mwyn defnyddio’r CCFF, bydd angen ichi gysylltu â’ch banc. Mae’n bwysig nodi nad yw pob banc yn cyhoeddi papur masnachol. Os nad yw eich banc yn cyhoeddi papur masnachol, bydd UK Finance yn darparu rhestr o fanciau sy’n gallu helpu. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Banc Lloegr. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru. Dylai busnesau fynd i https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-support-for-businesses i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r cynllun hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Fanc Lloegr. Mae’r cynllun hwn yn derbyn ceisiadau’n awr.
|
Gohirio Treth Incwm |
Os ydych chi’n hunangyflogedig, caiff taliadau Treth Incwm sy’n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 dan y system Hunan-asesu eu gohirio tan fis Ionawr 2021. Pwy sy’n gymwys – Os ydych chi’n hunangyflogedig, rydych chi’n gymwys. Arlwy awtomatig yw hwn ac nid oes angen gwneud ceisiadau. Ni chodir cosbau na llog am daliadau hwyr yn ystod y cyfnod gohirio. Mae CThEM hefyd wedi gwella’u cynnig Amser i Dalu i bob cwmni ac unigolyn sydd mewn gofid ariannol dros dro oherwydd coronafeirws ac sydd â dyledion treth heb eu talu. Caiff taliadau sy’n ddyledus ar 31 Gorffennaf 2020 eu gohirio tan 31 Ionawr 2021.
|
|
Mae hwn ar gael i bobl hunangyflogedig |
Cyfraddau Llog |
Mae Banc Lloegr wedi gostwng ei gyfradd sylfaenol i 0.1% |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.
Croesawn y gostyngiad diweddaraf yn y cyfraddau banc. Dylai helpu i leihau costau benthyca ymhellach. Mae’r cyhoeddiad y ceir, i gyd-fynd â’r gostyngiad hwn, gylch pellach o esmwytho meintiol ar raddfa fawr yn debygol o fod yn bwysicach ac i’w groesawu mwy fyth. Dylai helpu i leihau cyfraddau llog hirdymor a gwella hylifedd yn y marchnadoedd. Rydyn ni’n sicr bod y Banc yn barod iawn i gymryd camau pellach os yw’r sefyllfa’n cyfiawnhau hynny.
|
Cynllun Cadw Swyddi |
Dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod coronafeirws, bydd holl gyflogwyr yn y DU sydd â chynllun Talu wrth Ennill yn gallu cael cymorth i barhau i dalu rhan o gyflogau eu gweithwyr a fyddai fel arall wedi colli eu swydd yn ystod yr argyfwng. Mae hwn yn berthnasol i weithwyr sydd wedi cael gorchymyn i roi’r gorau i weithio, ond sy’n cael eu cadw ar y gyflogres; fe’u disgrifir hefyd fel ‘gweithwyr ar seibiant’. Bydd CThEM yn ad-dalu 80% o’u cyflogau, hyd at £2,500 y mis. Cyflwynwyd y cynllun hwn i warchod gweithwyr rhag colli eu swyddi. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws yn talu costau cyflogau wedi’u hôl-ddyddio i Fawrth 1af ac mae ar agor i ddechrau am 3 mis, ond caiff ei ymestyn os oes angen.
A wyf fi’n gymwys?Bydd pob cyflogwr ar draws y Deyrnas Unedig sydd â chynllun Talu wrth Ennill yn gymwys – mae’n cynnwys y sector cyhoeddus, Awdurdodau Lleol ac elusennau.
Sut wyf fi’n cael gafael arno?Bydd angen i fusnesau: 1. Dynodi’r gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt fel ‘gweithwyr ar seibiant’ a hysbysu eich gweithwyr o’r newid hwn – mae newid statws gweithwyr yn dal yn ddarostyngedig i’r gyfraith cyflogaeth gyfredol ac, yn ddibynnol ar y contract cyflogaeth, fe allai gael ei negodi. 2. Pan fydd y porthol ar-lein newydd yn gweithio, cyflwynwch wybodaeth i CThEM am y gweithwyr sydd ar seibiant ac am eu henillion (bydd CThEM yn cyflwyno manylion pellach ar y wybodaeth sy’n ofynnol) Pryd allaf fi wneud hyn? Mae CThEM wrthi’n brysur yn sefydlu system ar gyfer ad-daliadau. Disgwyliwn i’r grantiau cyntaf gael eu talu cyn pen wythnosau, a’r nod yw gwneud hynny cyn diwedd Ebrill. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru. |
Sector Tai Rhent |
|
£1bn o gymorth i rentwyr, drwy gynyddu haelioni’r budd-dal tai a Chredyd Cynhwysol, fel bydd y Lwfans Tai Lleol yn ddigonol ar gyfer o leiaf 30% o renti’r farchnad yn eich ardal. |
|
Hunangyflogedig |
Cyhoeddodd y Gyllideb y byddent yn llacio’r rheolau enillion (a elwir yn Derfyn Incwm Isaf) ar gyfer hawlwyr hunangyflogedig sy’n sâl neu’n hunan-ynysu yn unol ag arweiniad y Llywodraeth. Mae hwn eisoes wedi dod i rym. Ar 20 Chwefror fe wnaeth y Llywodraeth ymestyn hwn i bob hawliwr hunangyflogedig nid dim ond y rheini y mae’r feirws yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, gan sicrhau bod y rhai sy’n teimlo effaith economaidd coronafeirws yn cael cymorth. Os ydych yn hunangyflogedig ac os yw coronafeirws arnoch neu os cewch gyngor i hunan-ynysu, gallwch chi’n awr wneud cais yn haws am Gredyd Cynhwysol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd. Os ydych chi’n gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd, bydd yn awr yn daladwy o ddiwrnod cyntaf y salwch, yn hytrach nag o ddiwrnod wyth, os yw coronafeirws arnoch neu os cawsoch eich cynghori i hunan-ynysu. Gallai pobl hunangyflogedig hefyd elwa o:
|
Rhwyd ddiogelwch i bobl hunangyflogedig hefyd, drwy atal y terfyn incwm isaf i bawb sy’n teimlo effeithiau economaidd coronafeirws. Mae hynny’n golygu y gall pob unigolyn hunangyflogedig gael Credyd Cynhwysol, yn llawn, ar yr un raddfa â Thâl Salwch Statudol i weithwyr cyflogedig. Hefyd, caiff y taliadau hunan-asesiadau nesaf eu gohirio tan fis Ionawr 2021. |
Mae hwn ar gael i bobl hunangyflogedig yng Nghymru |
Ad-daliad Tâl Salwch Statudol
|
Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i fusnesau bach a chanolig eu maint adhawlio’r Tâl Salwch Statudol (SSP) a delir am absenoldeb salwch staff oherwydd coronafeirws. Bydd yr ad-daliad hwn yn ddigonol ar gyfer hyd at 2 wythnos o SSP i bob gweithiwr cymwys a fu i ffwrdd o’r gwaith oherwydd coronafeirws.
A wyf fi’n gymwys?Byddwch yn gymwys: 1. Os yw eich busnes wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig AC 2. Os yw eich busnes yn fach neu’n ganolig ei faint ac yn cyflogi llai na 250 o weithwyr ar 28 Chwefror 2020.
Sut wyf fi’n cael gafael arno?Mae cynllun ad-dalu yn cael ei lunio, a bydd manylion pellach ar gael maes o law.
Pryd allaf fi gael gafael arno?Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio â chyflogwyr dros y misoedd nesaf i sefydlu peirianwaith ad-dalu ar gyfer cyflogwyr cyn gynted â phosibl. Ni fwriadwyd i’r systemau presennol hwyluso ad-daliadau i gyflogwyr am SSP. |
|
Bydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio â chyflogwyr dros y misoedd nesaf i sefydlu peirianwaith ad-dalu cyn gynted â phosibl. Ni fwriadwyd i’r systemau presennol hwyluso ad-daliadau i gyflogwyr am SSP.
Dylai busnesau yng Nghymru a hoffai wybod rhagor am y cynllun SSP gysylltu â Llinell Gymorth Covid-19 CThEM ar 0800 0159 559 neu fonitro gwefan CThEM am ragor o wybodaeth.
|
Amser i Dalu
|
Mae’n bosibl y bydd pob busnes a phobl hunangyflogedig sydd mewn gofid ariannol, ac sydd â rhwymedigaethau treth heb eu talu, yn gymwys i gael cymorth â’u materion treth drwy wasanaeth Amser i Dalu CThEM. Cytunir ar y trefniadau hyn fesul achos a chânt eu teilwra’n unol ag amgylchiadau a rhwymedigaethau unigolion.
A wyf fi’n gymwys?Byddwch yn gymwys: 1. Os yw eich busnes yn talu treth i Lywodraeth y DU 2. Os oes gan eich busnes rwymedigaethau treth sydd heb eu talu
Sut wyf fi’n cael gafael arno?Os ydych wedi methu, neu’n poeni y byddwch yn methu eich taliad treth nesaf oherwydd coronafeirws, cysylltwch â CThEM. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth CThEM am gyngor ar 0800 0159 559. I gael rhagor o wybodaeth am daliadau hwyr, ewch i CThEM Os ydych chi’n pryderu am daliad i’r dyfodol, ffoniwch CThEM yn nes at yr amser. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.
Gall busnesau gysylltu â llinell gymorth COVID-19 newydd CThEM o 11 Mawrth 2020 ymlaen i gael cyngor a chymorth. I sicrhau bod cymorth parhaus ar gael, mae CThEM wedi rhyddhau 2,000 arall o atebwyr galwadau profiadol i roi cymorth i gwmnïau ac unigolion pan fo angen.
Os ydych chi’n poeni a fyddwch yn gallu talu eich treth oherwydd COVID-19, yna ffoniwch llinell gymorth newydd CThEM ar 0800 0159 559.
Gall busnesau ddefnyddio’r cynllun hwn ar unwaith |
Lwfans safonol Credyd Cynhwysol |
|
Yn cynyddu am y 12 mis nesa £1,000 y flwyddyn. Am y deuddeg mis nesaf, caiff elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith ei gynyddu’r un faint hefyd. Bydd dros 4 miliwn o’n haelwydydd mwyaf bregus yn elwa o hyn.
|
Os ydych chi’n hunangyflogedig a’ch bod eisiau gwybod a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, ewch i dudalen Credyd Cynhwysol gov.uk
|
Gohirio TAW
|
Bydd Llywodraeth y DU yn gohirio taliadau Treth ar Werth (TAW) am 3 mis.
A wyf fi’n gymwys?Mae pob cwmni yn y DU sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW yn gymwys.
Sut wyf fi’n cael gafael arno?Arlwy awtomatig yw hwn ac nid oes angen gwneud ceisiadau. Ni fydd angen i fusnesau cofrestredig yn y DU wneud taliadau TAW sy’n ddyledus fel arfer â ffurflenni TAW yn ystod y cyfnod hwn. Caiff trethdalwyr hyd at ddiwedd blwyddyn dreth 2020-21 i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod gohirio. Bydd y llywodraeth yn talu ad-daliadau ac ad-hawliadau TAW fel arfer.
Pryd allaf fi wneud hyn?Bydd y gohiriad yn weithredol o 20 Mawrth 2020 tan 30 Mehefin 2020. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru.
|
Cymorth i Fusnesau gan Lywodraeth y DU – Lloegr yn unig https://www.businesssupport.gov.uk/coronavirus-business-support/
Beth |
Manylion |
Cyhoeddiad Llyw y DU |
Camau i’w Cymryd |
Gwyliau rhag talu Ardrethi Busnes i gwmnïau Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden |
Ni fydd raid i fusnesau yn y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn Lloegr dalu ardrethi busnes ar gyfer blwyddyn dreth 2020-21. Bydd busnesau a gafodd y disgownt manwerthu ym mlwyddyn 2019-20 yn cael eu hail-filio gan eu hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yn Lloegr yn unig
|
Grant Ariannol i fusnesau Manwerthu, Lletygarwch a Hamdden |
Os yw eich busnes chi yn y sector manwerthu, lletygarwch neu hamdden, fe gewch grant ariannol o hyd at £25,000 yr eiddo. Bydd busnesau yn y sectorau hyn sydd â gwerth ardrethol sy’n llai na £15,000 yn cael grant o £10,000. Bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol sydd rhwng £15,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000. |
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yn Lloegr yn unig
|
Cyllid Grant i Fusnesau Bach |
Mae’r Llywodraeth yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol i helpu busnesau bach sydd eisoes ddim ond yn talu ychydig neu ddim ardrethi busnes oherwydd y rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR), y rhyddhad ardrethi gwledig (RRR) a’r rhyddhad graddedig. Bydd hwn yn darparu grant unwaith ac am byth o £10,000 i fusnesau cymwys i’w helpu i dalu eu costau busnes parhaus. A wyf fi’n gymwys? Byddwch yn gymwys 1. Os yw eich busnes wedi’i leoli yn Lloegr* AC 2. Os ydych yn fusnes bach ac eisoes yn cael SBRR a/neu RRR AC 3. Os ydych yn fusnes sy’n meddiannu eiddo
Sut wyf fi’n cael gafael arno?Nid oes angen ichi wneud dim. Bydd eich Awdurdod Lleol yn ysgrifennu atoch os ydych yn gymwys i gael y grant hwn.
Pryd allaf fi ei gael?Bydd Awdurdodau Lleol yn ysgrifennu at bob busnes cymwys gyda gwybodaeth am sut i hawlio’r grant hwn. Dylech holi’r Awdurdod Lleol priodol ag unrhyw ymholiadau ynglŷn â darparu’r rhyddhadau a’r grantiau hyn a phwy sy’n gymwys. I ddod o hyd i’ch Awdurdod Lleol, defnyddiwch yr offer chwilio hwn.
|
|
Mae hwn ar gael i fusnesau yn Lloegr yn unig |
|
|
|
|
Cymorth gan y Banciau i Fusnesau
Barclays
HSBC
Metrobank
NatWest
<}0{>
Yswiriant
Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI)