Mae ceisiadau yn awr yn cael eu derbyn ar gyfer yr ail gam o raglen ar gyfer newydd-ddyfodiaid i ffermio sydd â diddordeb mewn twf a datblygiad drwy fentoriaeth. Mae’r Rhaglen Mentora Ffermio, cynllun peilot sydd yn awr yn ei ail flwyddyn, yn bartneriaeth rhwng Cynghrair Gweithwyr y Tir, Cynghrair Tyfwyr Organig, Rhwydwaith AGG a Chydweithfa Tir Ecolegol.
Mae’r rhaglen yn cael ei strwythuro o gwmpas adeiladu perthynas ddysgu gefnogol rhwng ymarferwyr profiadol a newydd-ddyfodiaid i’r sector. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys mentora un i un ac mewn grŵp rhwng Ionawr a Medi 2021, yn ogystal ag mewn digwyddiad grŵp a gweminarau i gefnogi’r cynllun.
Mae’r Rhaglen Mentora Ffermio yn cael ei hanelu at y rhai hynny sydd wedi lansio eu busnes ffermio eu hunain yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf neu sydd wedi bod yn gweithio mewn swyddogaeth gwneud penderfyniadau. Mae croeso i bobl yn y DU ac o bob sector o’r diwydiant ymgeisio.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a chynghorir chi i wneud cais cyn gynted ag y bo modd. Mae disgownt ar gael i’r rhaglen ar gyfer aelodau o Gynghrair Gweithwyr y Tir, Cynghrair Tyfwyr Organig, Rhwydwaith AGG a Chydweithfa Tir Ecolegol.
Er mwyn ymgeisio am y rhaglen, cwblhewch y ffurflen gais a welir yma os gwelwch yn dda.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Sul, 18fed Hydref 2020.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth a chanllawiau cymhwysedd llawn, ewch i wefan Cynghrair Gweithwyr y Tir neu cysylltwch â steph@landworkersalliance.org.uk