Mae ambell i ffasiwn fel ‘Gwener y Gwario’ a ‘Llun Prynu Ar-lein’ yn croesi’r Iwerydd ac yn ymwreiddio yng nghalendr gwledydd Prydain. Mae Calan Gaeaf yn enghraifft sydd bellach wedi goddiweddyd Gŵyl San Ffolant i fod y drydedd ŵyl fwyaf ar ôl y Nadolig a’r Pasg, gan esgor ar y ffasiwn ‘Parc Pwmpenni’ sy’n dechrau ennill ei phlwyf. Ond beth sydd angen i dyfwyr sy’n rheoli ffermydd ‘Casglu eich hun’ ei wybod? Dyma’r ail yn ein cyfres o gynghorion i’r diwydiant. Yn y rhifyn hwn edrychwn ar sut y gall strategaeth farchnata ar-lein effeithiol wneud byd o wahaniaeth, pwysigrwydd cynnal eich cnydau a sut i sicrhau presenoldeb mawr trwy adolygiadau ar-lein.
Yn rhan gyntaf y daflen ffeithiau hon, edrychwyd ar y modd y mae’r farchnad yn newid i fentrau casglu eich hun, gan archwilio’r rhesymau sy’n gyrru galw cwsmeriaid. O dwf y cyfryngau cymdeithasol, i ymwybyddiaeth prynwyr o faterion cynaliadwyedd, galw am dryloywder yn y gadwyn gyflenwi a’r duedd gynyddol tuag at wario mwy ar ‘brofiadau’ yn hytrach na nwyddau.
Dyma’r pwyntiau dysgu allweddol a nodwyd yn rhan un:
mae marchnata a chreu perthynas gyda’r cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant eich menter Casglu Eich Hun. Mae hanner cyntaf y daflen ffeithiau hon yn canolbwyntio ar wneud y gorau o farchnata ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol.
Ond dim ond hanner yr her yw denu pobl i mewn drwy’r drws. Gyda’r cynnydd mewn safleoedd adolygu ar-lein fel Google a TripAdvisor mae’n haws nag erioed i gwsmeriaid anfodlon rannu eu cwynion gyda chyd-gwsmeriaid.
Mae 90% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn edrych ar adolygiadau ar-lein cyn penderfynu ymweld â busnes, a dywed 88% o ddefnyddwyr eu bod yn ymddiried llawn gymaint mewn adolygiadau ar-lein ag mewn argymhellion personol. Felly, gallech redeg yr ymgyrch farchnata orau yn y byd, ond os nad yw profiad y cwsmer go iawn yn ateb y disgwyliadau, fydd gan eich cwsmeriaid ddim ofn dweud hynny, a hynny ar goedd, gan danseilio’ch gwaith caled. Yn ail hanner y daflen ffeithiau hon rhoddir ambell gyngor technegol gwerthfawr i sicrhau y cewch chi farc 5*.