Beth yw’r rheswm dros Lysiau Cam?
Hyd at 2009, roedd yna gamsyniad yn aml na fyddai manwerthwyr yn gallu gwerthu unrhyw ffrwythau neu lysiau nad oeddent yn ymddangos yn “berffaith”.
Ond yn sgil rheolau a ddaeth i rym yn 2009, symleiddiwyd y ffordd y gellir marchnata cynnyrch heb gamarwain defnyddwyr. Felly, cyhyd a’u bod yn lân, heb unrhyw blâu neu glefydau, nid ydynt wedi pydru, ac maent wedi’u labelu gyda’u gwlad tarddiad, gall manwerthwyr fanwerthu fel y gwelant hwy orau.
Ond bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach a gyda hyd at 40% o gnwd o lysiau yn parhau i gael ei wastraffu oherwydd gofynion esthetig archfarchnadoedd, a ydym wedi arfer gormod gyda’r llysieuyn perffaith? O ble y daw safonau esthetig archfarchnadoedd? A yw hyn o ganlyniad i’n harferion prynu?
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o wirioneddau gwastraff bwyd ar ôl datgelu bod y sector yn cynhyrchu 10 miliwn o dunelli o wastraff bwyd y flwyddyn. Mae cogyddion enwog, gan gynnwys Jamie Oliver a Hugh Fearnley-Whittingstall hefyd wedi tynnu sylw at y mater, ac maent wedi ysgogi newid ym marn defnyddwyr am wastraff bwyd.
Ar ôl gwrando ar bryderon cwsmeriaid am wastraff bwyd, mae archfarchnadoedd yn dechrau croesawu llysiau cam, maent yn llacio eu gofynion esthetig ac maent hyd yn oed yn defnyddio llysiau cam mewn cynnyrch newydd.
Mae archfarchnadoedd y DU wedi addo lleihau gwastraff bwyd a diod o un rhan o bump erbyn 2025. Mae’r addewid hwn yn rhan o Ymrwymiad Courtauld ac, o fis Tachwedd 2017, mae TyfuCymru yn falch eu bod yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Courtauld 2025.
Mae galw cynyddol am lysiau cam ac mae hyd yn oed yn cael ei ddisgrifio fel un o’r tueddiadau bwyd mwyaf poblogaidd yn 2017 a 2018. Felly, sut y gall tyfwyr yng Nghymru elwa? Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i groesawu Llysiau Cam.