Dalen Cyngor Technegol Mafon a Ffrwythau Cansen
Mae'r daflen gyngor dechnegol hon yn canolbwyntio ar Sefydlu a Gofalu am Blanhigfeydd,Monitro a Rheoli Plâu, Phytophthora, Gwiddon Cansenni Mafon, Asesu Clefydau Cansenni Blodeuo a COVID-19, Pest Monitoring & Control, Raspberry Cane Midge, Phytophthora, Floricane Disease Assessments a COVID-19. Darperir dyfyniad isod, gyda'r daflen gyngor dechnegol lawn ar gael i'w lawrlwytho ar ddiwedd y dudalen hon.
Mae llawer o dyfwyr eisoes wedi symud neu’n ystyried symud oddi wrth gynhyrchu mafon mewn pridd i ddefnyddio mathau cansenni hir a dyfir mewn potiau swbstrad. Drwy ddefnyddio’r planhigion hyn a fu mewn storfa oer gellir amserlennu, pan gaiff nifer eu plannu yn yr awyr agored neu dan bolythen, gynhyrchiant y ffrwythau gan ddefnyddio mathau o fafon sy’n dwyn ffrwyth mewn un haf neu mewn nifer o hafau (floricane) dros gyfnod cynaeafu llawer hwy na fyddai’n bosibl fel arfer. Os gellir defnyddio tai gwydr neu dwneli polythen i warchod rhai o’r planhigion dilynol, gellid bod yn bosibl cael y planhigion i ddwyn ffrwyth o ganol i ddiwedd Mai hyd at ddiwedd Medi i ganol Hydref. Mewn rhai achosion mae’n bosibl na fydd tyfwyr ond eisiau cynhyrchu ffrwythau’n hwyrach nag sy’n bosibl o’u cnydau presennol o fafon ffrwythau haf a dyfir mewn pridd neu mewn swbstrad, neu efallai, oherwydd lleoliad y fferm, ni fydd cansenni cyntaf planhigion sefydledig cyltifarau megis Octavia, Glen Ample, Dee a Glen Carron, dros y rhan fwyaf o aeafau, mwyach yn cael eu hoeri’n ddigonol yn ystod y gaeaf erbyn diwedd y gaeaf/dechrau’r gwanwyn er mwyn i’r hyn sydd yn awr yn gansenni blodeuo egino yn wastad i lawr hyd y cansenni, ac mae hyn, mewn rhai achosion, yn arwain at fod llai na 25% o’r canghennau ochrol posibl yn dwyn ffrwyth.
Pan ddefnyddir mathau cansen hir mewn potiau neu mewn pridd i gynhyrchu ffrwythau, cânt eu rhoi mewn storfa oer ym mis Tachwedd a Rhagfyr pan mae’r cansenni cyntaf wedi gorffen tyfu, a phan fo’r dyddiau byrrach a’r tymheredd oerach yn golygu bod y blodau’n dechrau egino, gan ddechrau ar y brig ac, yna ym mhob nod, fwy neu lai ar hyd y cansenni. Caiff y planhigion eu cadw mewn storfa oer (nes bydd gofynion oeri’r cyltifarau unigol wedi eu cyflawni) ac yn unol â’r gofynion plannu er mwyn sicrhau bod y cynaeafu o bob swp o blanhigion a gaiff eu plannu yn dechrau 70-100 diwrnod ar ôl plannu. Bydd union ddyddiad dechrau’r gwaith cynaeafu unwaith eto yn dibynnu ar y math o blanhigyn, faint o gyfnod oeri mae’r planhigion wedi’i gael, y tymheredd cyn eu rhoi mewn storfa oer a hyd y dyddiau, ac a yw’r dydd yn ymestyn ynteu’n byrhau. Felly planhigion sy’n cael eu plannu ddiwedd Chwefror- Mawrth a Gorffennaf yn dwyn ffrwyth yn hwyrach na’r rheini a gaiff eu plannu ym mis Mai.
Mae’n well defnyddio mafon cansenni hir sy’n dwyn ffrwyth yn yr haf â dulliau cynhyrchu mewn potiau swbstrad yn hytrach na mewn pridd gan nad yw oes planhigion o’r math hwn o ddeunydd plannu fel arfer ond yn un flwyddyn neu ar y mwyaf ddwy flynedd. Mae’r rhan fwyaf o gyltifarau ond yn cynhyrchu cansenni cyntaf gwan neu brin iawn yn ystod yr ail flwyddyn gynaeafu. Os mai unwaith fydd y planhigion yn cael eu cynaeafu yna gellid defnyddio potyn 7.5L, neu os cânt eu cynaeafu am 2-3 blynedd yna caiff potiau 10 neu 12L eu defnyddio. Mae rhai tyfwyr yn defnyddio 2 blanhigyn mewn potyn 10 neu 12L i gynhyrchu cnydau dwy flynedd.
Yn fwy diweddar, mae rhai lluosogwyr planhigion cansenni hir wedi symud i gynhyrchu planhigyn cansen hir sengl mewn potyn 5 neu 7.5L, ni chaiff y planhigion hyn eu potio eilwaith. Ar ôl i’r compost o amgylch gwreiddiau’r planhigion a fu mewn storfa oer ddadmer yn llwyr, caiff y planhigion cansenni hir eu gosod yn eu lleoliad dwyn ffrwyth, caiff y cansenni eu clymu wrth y dellt cynnal â chortyn neu glipiau plastig, gosodir yr offer diferu dŵr ar neu yng nghompost pob potyn ac mae’r planhigion yn dechrau tyfu.
Nid yw’r planhigion hyn ond yn addas i gynhyrchu un cnwd, ac ar ôl eu cynaeafu, caiff y system ddyfrhau ei datgysylltu a gadewir y planhigion i wywo a marw. Ar ôl iddynt farw cânt eu rhyddhau o’r dellt a gosodir eu potiau yn y rhesi a chânt eu malu’n dipiau i’w hailgylchu. Mae’r rhaglen rheoli plâu a chlefydau ar gyfer y planhigion un cnwd hyn, a’r gost o reoli’r planhigion, yn llawer is. Gellir cael gwared ar yr hyrddiad cyntaf o dwf y cansenni cyntaf, yr ail hyrddiad ac weithiau’r trydydd drwy chwistrellu carfentrazone ethyl (Shark EAMU 0622/19) yn uniongyrchol, a dylid aros cyn gwasgaru’r plaladdwr nes bo’r cansenni cyntaf talaf sy’n bresennol o amgylch y cansenni blodeuo yn y potiau yn ddim mwy nac 20cm o uchder. Nid oes angen chwistrellwyr i reoli clwy cansenni na gwybed cansenni mafon. Sylwer fodd bynnag fod Shark angen bwlch o 21 diwrnod rhwng cynaeafu, y gyfradd wasgaru uchaf unigol yw 800mls cynnyrch/ha trin, ond os caiff ei wasgaru ar yr adeg iawn, dim ond 400 neu ar y mwyaf 500mls/ha fydd yn ofynnol. Mae’n gyflymach ac yn haws cynaeafu’r ffrwythau (yn enwedig i gwsmeriaid ‘casglu eich hunain’) gan nad oes dim cansenni cyntaf yn bresennol i guddio’r ffrwythau rhag y casglwyr.
Gyda phlanhigion sydd wedi’u gwarchod mewn tai gwydr neu dwneli sy’n cael eu hawyru’n dda, mae’n bosibl na fydd angen gwasgaru ffwngleiddiaid i reoli rhwd mafon neu botrytis ac ni fydd ond angen defnyddio chwistrellau yn erbyn llwydni powdrog os gwyddys bod y math o blanhigyn yn agored iawn i’r clefyd hwn e.e. Glen Ample.
Mae’r sefyllfa bresennol yn effeithio ar y sector mewn amrywiol ffyrdd, ac er bod siopau ffermydd yn gweld cynnydd yn eu busnes, ychydig o fynediad i gwsmeriaid sydd gan dyfwyr ‘casglu eich hunain’. Gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hysbysebu dethol (yn enwedig os yw tyfwyr casglu eich hunain yn gwerthu bocsys bach) a gall hefyd fod yn ddefnyddiol i reoli torfeydd pan ddychwelwn i normal. Efallai y byddai tyfwyr casglu eich hunain yn dymuno oedi eu cnydau (naill ai drwy blannu’n hwyrach neu arafu’r cnwd drwy adael twneli heb orchudd). Efallai y byddech hefyd yn dymuno sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau gan archebu ymlaen llaw, yn enwedig gynhyrchion cemegol a biolegol, i sicrhau eich bod yn gallu cadw rheolaeth dros y tymor.
Dadlwythwch y Daflen Cyngor Technegol lawn yma: Dalen Cyngor Technegol Mafon a Ffrwythau Cansen
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn. Dylai’r holl gemegolion amddiffyn cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid cyfeirio at yr argymhellion hynny cyn chwistrellu. Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU dan y Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002). Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr ar risg y defnyddiwr ei hun ac nid yw Tyfu Cymru’n derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr mewn cnydau mafon yn gywir adeg ysgrifennu. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r cymeradwyaethau cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad – mae cyngor drwy e-bost/dros y ffôn hefyd ar gael.