Byddem yn dyfalu bod sicrhau ansawdd y planhigion rydych chi’n eu cynhyrchu yn weddol uchel ar eich rhestr blaenoriaethau. Ond mae ansawdd yn golygu rheoli iechyd planhigion, ac mae p’un a ydynt wedi’u heintio â chlefydau neu a oes plâu yn amharu arnynt yn effeithio’n fawr iawn ar hynny.
Oeddech chi’n gwybod bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi mai 2020 fydd Blwyddyn Genedlaethol Iechyd Planhigion? Byddwn ni’n ymchwilio i hanfodion iechyd planhigion ac yn rhoi gwybodaeth, argymhellion ac adnoddau i chi er mwyn sicrhau bod eich planhigion yn cadw’n iach.
Beth am ddechrau drwy ddeall pam mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhoi gymaint o bwyslais ar Iechyd Planhigion yn ystod 2020. Mae planhigion yn gyfrifol am 80% o'r bwyd rydyn ni’n ei fwyta a’i gynhyrchu, ac am 98% o’r ocsigen rydyn ni’n ei anadlu. Mae’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn amcangyfrif bod angen i gynhyrchiant amaethyddol gynyddu tua 60% erbyn 2050 er mwyn bwydo poblogaeth fwy. Fodd bynnag, mae planhigion y byd dan fygythiad cyson, ac mae’r amcangyfrifon yn nodi bod hyd at 40% o gnydau bwyd yn cael eu dinistrio bob blwyddyn o ganlyniad i blâu a chlefydau, sy’n golygu bod pobl yn mynd heb fwyd a bod hyn yn cael effaith negyddol ar y diwydiant amaeth yn sgil colli cynnyrch ac incwm.
Beth sy’n cyfrannu at fygwth iechyd planhigion? Mae bioddiogelwch isel, hylendid gwael yng nghyswllt planhigion a methu rheoli rhywogaethau goresgynnol i raddau digonol yn caniatáu i blâu a chlefydau ymledu ar raddfa eang. Ar yr un pryd, mae teithio a masnach ryngwladol wedi treblu dros y degawd diwethaf, sy’n gallu lledaenu plâu a chlefydau yn gyflym o gwmpas y byd. Mae hyn yn arwain at golli ecosystemau, colledion economaidd sylweddol a methu tyfu cnydau penodol.
Yn aml, mae’n amhosib dileu plâu a chlefydau planhigion ar ôl iddynt ymsefydlu, ac mae eu rheoli yn broses ddrud sy’n cymryd llawer o amser. Dyma pam mae Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion 2020 yn rhoi pwyslais ar atal a diogelu fel dau beth pwysig i ganolbwyntio arnynt. Mae diogelu planhigion rhag plâu a chlefydau yn llawer mwy cost-effeithiol na delio ag argyfyngau, felly mae atal yn hollbwysig er mwyn osgoi effaith ddinistriol plâu a chlefydau ar amaethyddiaeth, bywoliaeth a diogelwch bwyd.
Mae Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion yn gyfle unigryw i godi ymwybyddiaeth o sut gall amddiffyn iechyd planhigion helpu i roi diwedd ar newyn, lleihau tlodi, amddiffyn yr amgylchedd a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd – Y Sefydliad Bwyd ac Amaeth
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion 2020, yn ogystal â manylion digwyddiadau a chynadleddau drwy gydol 2020: http://www.fao.org/plant-health-2020
Er mwyn gwerthu planhigion o ansawdd uchel, mae angen i chi gynhyrchu planhigion iach. Mae plâu a chlefydau yn arwain at golledion o ran cynhyrchu a gwerthu.
Fel tyfwr mae angen i chi allu adnabod y plâu a’r pathogenau a allai effeithio ar eich cnwd. Felly mae angen i chi ddeall sut mae trin y plâu a’r pathogenau i sicrhau eich bod yn cael cnwd da ar ddiwedd y cylch, a lleihau’r risg o golli cnydau lle byddech efallai wedi gallu osgoi hynny drwy adnabod plâu a chlefydau yn gynt.
Rydym wedi datblygu'r canllaw cyflym hwn ar fynd i'r afael â hanfodion iechyd planhigion, sydd hefyd yn rhestru adnoddau defnyddiol eraill. Cadwch eich llygaid yn plicio gan fod gennym adnoddau pellach ar Iechyd Planhigion i ddod yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys gweminarau, mewnwelediadau a digwyddiadau.
Lawr lwythwch y Mewnwelediadau yma: Mynd i'r afael â hanfodion iechyd planhigion ...