Diagnosis Iechyd
Planhigion mewn Planhigion Addurnol - Trosolwg
Awdur: Dr David Skydmore, Uwch Weithiwr Proffesiynol Iechyd Planhigion
Mewn garddwriaeth fasnachol, mae plâu a chlefydau planhigion yn arwain at golledion o ran cynhyrchiant, a cholledion o ran gwerthiant yn dilyn hynny.
Mae'n bwysig bod y tyfwr yn gallu canfod ac adnabod problemau pan fyddant yn codi. Mae’n rhaid meddu ar wybodaeth o'r symptomau a achosir gan blâu a chlefydau er mwyn adnabod a rheoli'r problemau hyn.
Mae'r gweminar hwn yn rhoi cyflwyniad, i'r tyfwr, o rai o'r symptomau mwyaf cyffredin a achosir gan bathogenau a phlâu a'r rhai sy’n cael eu cynhyrchu gan anhwylderau ffisiolegol. Nodir technegau diagnosis uwch ar gyfer adnabod pathogenau yn benodol.
Terminoleg a ddefnyddir yn y Nodyn Technegol
Pla - anifail sy'n achosi difrod i blanhigion e.e. pryf, nematod
Pathogen - organeb sy'n achosi clefyd mewn planhigion e.e. ffyngau, dyfrbriddoedd, bacteria, feirysau, mycoplasma. Defnyddir yr enw Lladin ar yr organeb fel arfer.
Clefyd - y casgliad o symptomau a achosir gan bathogen. Fel arfer rhoddir enw cyffredin ar y clefyd sy'n disgrifio'r clefyd.
Anhwylder - problem mewn planhigion a achosir gan aflonyddwch ffisiolegol e.e. difrod gan rew, diffyg maetholion, straen dŵr.
Sut i weld y Weminar hon
Noder: Mae’r nodyn technegol hwn yn rhoi trosolwg, ac fe’i bwriedir i fod yn ganllaw yn unig. Mae'r nodyn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir, ond ni wneir unrhyw honiadau na gwarantau ynghylch cywirdeb, cyflawnrwydd na digonolrwydd y cynnwys. Ni ddylai'r defnyddiwr ddefnyddio’r canllaw i wneud penderfyniadau ac fe ddylai ofyn am gyngor annibynnol. Mae'r wybodaeth yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig yn unig.