Uchafbwyntiau’r adroddiad:
- Mae gwerthiannau organig drwy gludo i’r cartref gan gynnwys cynlluniau bocsys wedi cynyddu 10.5%
- Mae cynnyrch organig sy’n cael ei werthu drwy wasanaethau bwyd (caffis, gwestai, bwytai, tafarndai, siopau cludfwyd) wedi gweld cynnydd enfawr o 19.1% mewn gwerthiannau
- Mae gwerthiannau organig drwy archfarchnadoedd wedi cynyddu 6.1%
- Mae mwy na 8,000 o siopau yn gwerthu cynnyrch organig ac mae 1.5% o farchnad bwyd a diod y DU yn organig
- Mae gan Sainsbury, Tesco a Waitrose 75% o werthiannau archfarchnadoedd organig
- Mae archfarchnadoedd disgownt megis Aldi, Lidl a Costco yn parhau i ychwanegu at eu hystod o gynnyrch organig
- Ocado yw’r manwerthwr cynnyrch organig mwyaf ar-lein, gyda 9% o gyfanswm y farchnad bwyd organig
- Mae cadwyni bwytai ar y stryd fawr ac atyniadau ymwelwyr yn cynnwys mwy o gynnyrch organig ar eu bwydlenni
- Nid dim ond ym marchnad y DU y gwelwyd twf cadarn mae Gorllewin Ewrop, UDA ac Asia yn farchnadoedd sy’n tyfu, ac yn farchnadoedd y gall cynhyrchwyr organig yng Nghymru eu targedu
- Yn Ewrop, yr Almaen yw’r farchnad organig fwyaf, gyda Ffrainc a’r Eidal hefyd yn dangos twf cryf a diddordeb gan y cyhoedd
Tueddiadau defnyddwyr:
- Mae defnyddwyr yn ystyried bwyd organig fel y dewis iach ac maent yn ymddiried llai mewn systemau cynhyrchu bwyd.
- Mae’r ardystiad organig yn cynnig sicrwydd i ddefnyddwyr
- Mae pobl yn awyddus i gael cyfleustra ond nid ydynt eisiau cyfaddawdu eu hegwyddorion
- Mae defnyddwyr yn ystyried bod “lleol” yn uwchraddol ac “annibynnol” yn well na marchnad dorfol
Data prisiau
I gael gwybodaeth am brisiau cynnyrch wythnosol, edrychwch ar dudalen Prisiau Cynnyrch Garddwriaeth Organig ar Wefan Cymdeithas y Pridd Ewch i Wefan Cymdeithas y Pridd i lawrlwytho copi o’r adroddiad: Adroddiad y Farchnad Organig 2017