Mewnforio ac allforio planhigion gan gynnwys Pasbortau i Blanhigion yng Nghymru
Cyfarwyddyd ar sut i ddod o hyd i wybodaeth (Mawrth 2020)
Daeth rheoliadau newydd ar iechyd planhigion i rym yn y DU ar 14 Rhagfyr 2019. Pwrpas y rhain yw cynyddu bioddiogelwch a diogelwch rhag niwed gan blâu planhigion a chlefydau. Mae'n bwysig i fusnesau sy’n gwerthu planhigion a chynnyrch planhigion fod yn ymwybodol o hyn a gweithredu yn ôl y rheoliadau, os ydyn nhw’n berthnasol iddyn nhw. Rhaid i unrhyw fusnes sy’n gysylltiedig â mewnforio ac allforio ddeall y rheoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys: masnach busnes-i-fusnes, gwerthu ar-lein, a gwerthu o bell (gan gynnwys danfon nwyddau i'r cartref).
Mae nifer o dermau allweddol y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw a gellir dod o hyd i'r eirfa trwy’r adnoddau isod. Mae'r termau canlynol wedi cael eu cynnwys yn yr eirfa:
Mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael sy’n egluro’r rheoliadau ac mae’r canllaw hwn yn eich arwain chi at ddetholiad ohonyn nhw. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, gweler y Llinell Gymorth Iechyd Planhigion isod.
Sefydliadau'r Llywodraeth
Mae APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) yn asiantaeth weithredol ar ran Defra. Wrth ystyried planhigion, mae APHA yn gyfrifol am adnabod a rheoli endemig a chlefydau a phlâu estron, yn ogystal â goruchwylio plâu a chlefydau newydd. Mae hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo masnach ryngwladol planhigion.
Mae PHSI (Arolygiaeth Iechyd Planhigion a Hadau) yn rhan o APHA ac mae’n gorfodi yn ogystal â rhoi polisïau iechyd planhigion ar waith yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Arolygwyr Iechyd Planhigion a Hadau yn gweithio mewn rhanbarthau, ac mae ganddyn nhw ddyletswyddau sy’n cynnwys ardystio bod planhigion yn iawn ar gyfer cael eu hallforio, yn ogystal ag archwilio deunydd planhigion a phlanhigion sydd wedi cael eu mewnforio. Gellir cysylltu â PHSI os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth.
Yng Nghymru, dyma linell gymorth Iechyd Planhigion: 0300 1000 313 neu anfonwch neges e-bost at planthealth.info@apha.gov.uk
Ar hyn o bryd mae’r DU yn gweithredu yn unol â rheoliadau iechyd planhigion SRSF (Smarter Rules for Safer Food) ar gyfer mewnforio ac allforio planhigion. Mae'r camau mae busnesau angen eu cymryd yn amrywio rhwng masnachu â’r UE a masnachu â gwledydd eraill.
Mae'n bwysig bod busnesau garddwriaeth yng Nghymru yn ymwybodol o reoliadau iechyd planhigion. Mae'r rhain yn cynnwys cofrestru eich busnes, ardystio, archwilio, pasbortau planhigion a thystysgrifau iechyd planhigion, yn ogystal â labelu a chadw cofnodion.
Tudalennau gwe’r Llywodraeth
Dyma ddwy brif ffynhonnell:
Porth Gwybodaeth Iechyd Planhigion
Gellir dod o hyd i dudalennau SRSF yn https://planthealthportal.defra.gov.uk/smarter-rules-for-safer-food-srsf/
Mae'r rhain yn cynnwys canllawiau rhagarweiniol, tudalennau holi ac ateb, taflenni ffeithiau, yn ogystal â siart llif i'ch helpu chi benderfynu os oes angen pasbort ar eich planhigion.
Llywodraeth y DU
Gellir dod o hyd i dudalennau gwe Rheoli Iechyd Planhigion yma: https://www.gov.uk/guidance/plant-health-controls
Mae'r rhain yn cynnwys manylion ynglŷn â mewnforio ac allforio, yn ogystal â gwybodaeth am blâu dan gwarantin. Cliciwch ar y dolenni ar y tudalennau hyn er mwyn iddyn nhw eich arwain chi at ragor o wybodaeth bwysig. Er enghraifft, bydd clicio ar y ddolen mewnforio yn eich arwain at ddolen arall i gofrestru ar gyfer PEACH os ydych chi am ddechrau mewnforio planhigion. Bydd y ddolen ar gyfer allforio yn eich arwain at fanylion i chi allu gwneud cais am yr ardystiad y gallwch fod ei angen.
Mae manylion ynglŷn â chael pasbortau planhigion ar gyfer masnachu yn yr UE yn: https://www.gov.uk/guidance/issuing-plant-passports-to-trade-plants-in-the-eu
Mae angen rhoi hysbysiad ar gyfer mewnforio rhai deunyddiau planhigion ee coed a hadau tatws. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth yn: https://www.gov.uk/guidance/importing-trees-and-plants-to-england-and-wales-from-the-eu
Gwybodaeth ddiweddaraf
Mae NFU wedi llunio crynodeb a’r wybodaeth ddiweddaraf ar roi rheoliadau a phasbortau planhigion ar waith yn: https://www.nfuonline.com/sectors/horticulture-and-potatoes/hort-and-pots-news/the-new-plant-health-regulation-what-does-it-mean-for-you/
Fideos a modylau hyfforddi
Mae fideo rhagarweiniol byr gan y Gymdeithas Masnach Garddwriaeth (HTA) ar gael yn: https://hta.org.uk/assurance-compliance/plant-passporting.html Gall aelodau o’r HTA gael mynediad at seminarau ar-lein mwy manwl gan y Gymdeithas
Mae safonau ar gyfer iechyd planhigion yn cael eu cyflwyno ac mae hyn yn cael ei gyflwyno ar dudalennau gwe Plant Healthy https://planthealthy.org.uk/ Mae cyfres o fodylau hyfforddi (Introduction to Plant Health and Good Biosecurity Practice) wedi cael eu creu er mwyn cefnogi’r safon hwn, ac maen nhw’n ddefnyddiol wrth geisio deall safon iechyd planhigion.
Ymysg y rhain mae, mae’r modiwl hyfforddi “Rheoliadau a rheoli iechyd planhigion” yn rhoi gwybodaeth fanwl am y sefydliadau sydd yn y DU a’r UE sy’n rheoli’r broses o fewnforio ac allforio planhigion. Mae hefyd yn rhoi rhagarweiniad i fewnforio ac allforio, tystysgrifau iechyd planhigion a phasbortau planhigion.