Mae prentisiaethau yn ffordd i unigolion ennill wrth iddynt ddysgu, ac ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr mewn swydd benodol. Mae’r prentis ar ei ennill drwy gymysgedd eang o ddysgu yn y gweithle, hyfforddiant ffurfiol i ffwrdd o’r gwaith a’r cyfle i ymarfer sgiliau newydd mewn amgylchedd gwaith go iawn.
Mae prentisiaethau o fudd i gyflogwyr ac unigolion, a thrwy hybu sgiliau’r gweithlu maent yn helpu i wella cynhyrchiant economaidd. Mae cyflogwyr sydd â rhaglen brentisiaeth sefydledig yn datgan bod cynhyrchiant yn eu gweithle wedi gwella 76% a dywedodd 75% bod prentisiaethau wedi gwella ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth.