Mae Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru wedi lansio awr bŵer ar-lein er mwyn parhau i gefnogi tyfwyr yn ystod yr achosion o COVID-19. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 22 Ebrill 2020 ac roedd yn cynnwys cyngor arbenigol gan Chris Creed yn ADAS. Mae'r nodiadau technegol sy'n codi o'r Awr Bŵer bellach ar gael i'w lawr lwytho: Nodiadau Technegol Awr Pŵer Rhwydwaith Llysiau 22/04/2020
Trosolwg o'r Sylwadau Cyffredinol
Taenu gwrtaith – Gall gwrtaith fod yn ffordd wych o wella strwythur pridd a rhoi maetholion i’r cnwd, yn arbennig mewn llysiau organig. Nid yw gwrtaith ceffylau mor ffrwythlon â thorllwythi ieir ond mae’n cynnwys llawer o nitrogen. Cyn defnyddio gwrtaith, mae’n well ei gompostio mewn tomenni sydd wedi’u gorchuddio ac sy’n cael eu troi’n aml pan fydd y tymheredd yn cyrraedd 60°C. Bydd gorchuddio’r tomenni’n atal y maetholion rhag cael eu trwytholchi gan law, a bydd compostio effeithiol yn lladd unrhyw hadau chwyn fel na fyddwch yn eu lledaenu ar eich tir. Efallai dylech chwilio am unrhyw weddillion chwynladdwyr – dylech hau rhywfaint o bys neu ffa mewn padell a chwilio am egin cyn eu hau ar eich tir.
Dyfrhau – Mae’r tywydd sych parhaus yn golygu efallai bydd angen dyfrhau, yn arbennig ar drawsblaniadau diweddar. Pibelli dwr sy’n diferu a dyfrhad sy’n llifo’n araf yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddyfrhau’r pridd yn araf, ond byddwch yn ofalus ynghylch pryd rydych chi’n dyfrhau – gallai haen uchaf y pridd fod yn sych ond yn oer ac yn wlyb yn is i lawr. Bydd dyfrhad cynnar yn helpu’r trawsblaniadau wrth iddynt ddatblygu strwythur gwreiddiau ac wedyn trochi dŵr o lefelau dyfnach yn y pridd wrth iddi sychu yn ddiweddarach yn y tymor.
Rheoli Chwyn – Dylech flaenoriaethu rheoli chwyn, yn arbennig cyn plannu neu wrth sefydlu cnydau. Dylid rheoli clytiau glaswelltog/chwynnog gan eu bod yn gallu bod yn gronfa ar gyfer pysgod croen lledr (leather jackets) – os ydych yn gweld difrod ar eich cnydau, mae’n debygol mai oedolion y llynedd sydd wedi achosi hyn. Gall marchwellt fod yn broblem benodol, ond mae’n well ei dorri a’i godi yn aml i gyfyngu ar y tyfiant. Yn ddelfrydol, mae peiriannau danheddog hen ffasiwn y gwanwyn yn cael eu defnyddio gan eu bod yn tynnu’r rhisomau i fyny. Dylech wneud hyn ar ddechrau cyfnod sych. Ar ôl iddo weithio, dylech adael i’r rhisomau sydd ar yr wyneb sychu. Pan neu os bydd y marchwellt yn dychwelyd, gwnewch hyn eto. Mae’n well plannu cnydau sydd â chylchredau byr, fel salad, mewn ardaloedd ger gwelyau marchwellt gan y bydd yn haws eu rheoli yn hytrach na chnydau sy’n para blwyddyn neu gnydau lluosflwydd.
Cynllunio’r cylchdroadau – Gall cynllunio cylchdroadau eich helpu chi i gael yr enillion mwyaf posibl ar eich tir. Mae’n well cynllunio’r cnydau mwyaf llwglyd yn gynharach yn y cylchdroad – tatws a chorn-india – ar ôl i chi wrteithio. Gallwch gynllunio yn ôl grŵp teulu i leihau’r risg o afiechydon, ond byddai’n well cynllunio yn ôl yr amser cynaeafu. Ceisiwch blannu cnydau sy’n cael eu cynaeafu tua’r un pryd yn yr un ardaloedd o’r tir er mwyn i’r cnydau weithio ac i wneud y cynaeafu’n fwy effeithlon. Hefyd, ystyriwch ddwysedd plannu a gwneud yn siŵr eich bod yn cynllunio ar gyfer cyfraddau hadau neu drawsblaniadau addas er mwyn cynyddu’r nifer y gallwch ei gynaeafu.
Rhwyllau – Wrth blannu y tu allan, ystyriwch blannu o dan rwyll denau lle bo’n bosibl fel WonderMesh, Agromesh ac Enviromesh. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i atal difrod gan blâu (ee chwilod naid, pryfed moron) ynghyd ag adar, cwningod a cheirw. Hefyd, bydd y rhwyllau’n creu microhinsawdd, gan gynhesu amgylchedd llysiau sydd wedi’u plannu a bydd yn cyflymu eginiadau a thwf cynnar. Byddai’n well ymarfer gosod y rhwyll i lawr wrth ymyl y cnwd cyn plannu ac yna ei thynnu dros y cnwd wrth i chi blannu. Gellir naill ai tyrchu’r rhwyll i mewn i’r pridd neu fe allwch ei dal i lawr gyda bagiau tywod. Dylid gadael y rhwyll yn ei lle tan y cynhaeaf er mwyn osgoi difrod gan blâu. Dylai’r cnwd allu cefnogi’r rhwyll, ac er y gallwch golli ambell i blanhigyn wrth osod y rhwyll dros y cnwd, mae hynny’n well na’r difrod gan blâu yr ydych yn ei osgoi.
Gellir lawr lwytho'r nodiadau technegol llawn yma: Nodiadau Technegol Awr Pŵer Rhwydwaith Llysiau 22/04/2020
Os ydych chi'n aelod o un o'n rhwydweithiau tyfwyr, cadwch lygad am fanylion am ein cyfarfodydd ar-lein rheolaidd ar gyfer aelodau'r rhwydwaith.
Mae'r sesiynau ffocws hyn yn cael eu hwyluso gan Tyfu Cymru ynghyd ag arbenigwyr technegol ac maent yn cynnwys diweddariad ar faterion amserol yn seiliedig ar anghenion tyfwyr, ac yn caniatáu ichi rannu cwestiynau â thyfwyr ac arbenigwyr technegol. Bydd y gwasanaeth yma’n golygu eich bod yn gallu parhau i gael cefnogaeth drwy’r rhwydwaith. Hoffech ymuno â rhwydwaith? Cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn. Dylid defnyddio’r holl gemegau amddiffyn cnydau yn unol ag argymhellion y labeli, a dylech eu darllen cyn eu chwistrellu. Efallai na fydd gan rai o’r plaladdwyr y sonnir amdanynt yn y nodiadau hyn argymhellion ar eu labeli ynghylch sut i’w defnyddio ar gnydau o bwmpenni ond fe’u caniateir drwy Estyniad Awdurdodi ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan ‘Y Trefniadau Tymor Hir Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’. Yn yr achosion hyn, mae’r defnyddiwr yn defnyddio’r plaladdwyr ar eu risg eu hun ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sy’n cael ei achosi o ganlyniad i’w ddefnyddio. Mae’r cyfeiriadau at y gymeradwyaeth a’r EAMU sydd ar y labeli ar gyfer defnyddio plaladdwyr mewn cnydau o bwmpenni yn gywir ar yr adeg y cafodd y labeli eu hysgrifennu. Gall y rhain newid a gellir tynnu cymeradwyaeth yn ôl unrhyw bryd. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r gymeradwyaeth cyn defnyddio’r plaladdwr. Os oes gan dyfwr unrhyw amheuaeth, dylent ofyn am gyngor gan gynghorydd cymwysedig BASIS – mae hyn ar gael am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad – mae cyngor dros e-bost neu dros y ffôn ar gael hefyd.