Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymgynghoriad â thyfwyr ffrwythau a llysiau yng Nghymru ynghylch eu profiadau uniongyrchol a’u hymatebion i argyfwng Covid 19 (C19).
Dosbarthwyd arolwg byr yn holi ynghylch effeithiau C19 ar dyfwyr ffrwythau a llysiau i gysylltiadau perthnasol Tyfu Cymru (tua 150) a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd 34 o ymatebion dilys yn ystod y 12 diwrnod pan oedd yn fyw (27.03.20-06.04.20). Daw’r ymatebwyr o bob rhan o Gymru, ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o fusnesau gwahanol faint. Ar ben hyn, cynhaliwyd galwad fideo ar-lein ar 2 Ebrill, i ganiatáu i dyfwyr ac eraill drafod eu profiadau ac amlygu’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen. Ychwanegir at ganlyniadau’r arolwg yma gyda themâu o’r drafodaeth hon.
Crynodeb o’r Canfyddiadau
Ar hyn o bryd mae’r sector yn dangos ei werth fel cyflenwr cynnyrch ffres i ddefnyddwyr yng Nghymru. Gyda chefnogaeth briodol, gallai hyn ddatblygu’n dwf parhaus.
Cydlynwyd yr Arolwg a’r Uwchgynhadledd gan: Dr Hannah Pitt (Prifysgol Caerdydd), Dr Amber Wheeler (Y Sefydliad Bwyd), Katie Palmer (Food Sense Wales), Sarah Gould (Tyfu Cymru). I gael gwybod rhagor, cysylltwch â pitth2@cf.ac.uk.
I weld yr adroddiad cliciwch yma: Canlyniadau cynhyrchwyr cynnyrch bwytadwy yng Nghymru Ebrill 2020