Mae’r farchnad wedi arallgyfeirio, gyda defnyddwyr yn chwilio am ddiet amrywiol o saladau aml-ddail gan gynnwys letys microddail, berwr y dŵr ac egin pys. Mae galw mawr am gymysgeddau sy’n cynnwys dail lliw megis amaranth ac ysgallddail, neu flasau gan gynnwys dail ifanc seleri a pherlysiau, yn y diwydiant gwasanaeth bwyd. Tyfodd marchnad salad dail wedi’u paratoi yn y DU 6.6% yn 2017 i bron £700 miliwn, wedi’i gynnal gan alw cynyddol ymhlith defnyddwyr am gynnyrch maethol, ffres sy’n alinio â thueddiadau ‘bwydydd daionus’ sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd.
Mae galw tymhorol ar ei anterth yn yr haf, ond mae galw’r parhaus gan fwytai drwy gydol y flwyddyn yn gallu sicrhau marchnad am cyhyd ag y gellir tyfu’r salad.
Mae saladau deiliog sydd wedi’u tyfu’n lleol yng Nghymru yn cyflwyno cyfle datblygu cynnyrch gwych ar gyfer garddwriaeth; mae’n gynnyrch â chylch tyfu byr â gwerth uchel sy’n dangos a dangoswyd gostyngiadau cyflym i flas ac ansawdd mewn cadwyni cyflenwi estynedig. Drwy gynyddu argaeledd saladau o safon uchel, sydd wedi’u tyfu’n lleol, gall tyfwyr fanteisio ar y galw cynyddol gan ddefnyddwyr a chynyddu proffidioldeb eu menter dyfu.
Mae saladau hefyd yn alinio gyda gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer garddwriaeth, gan arallgyfeirio o gnydau garddwriaeth traddodiadol sy’n cael eu tyfu mewn pridd. Bydd dewisiadau newydd o gnydau salad deiliog, sy’n addas ar gyfer systemau tyfu heb bridd yn ychwanegu gwerth i gadwyn gyflenwi ranbarthol - byddai saladau sydd wedi’u tyfu yng Nghymru yn cynnig potensial buddsoddi cadarn i gynnyrch bwyd a diod, wedi’i farchnata yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.
Mae saladau deiliog yn addas iawn ar gyfer hydroponeg a gellir eu datblygu fel busnes newydd neu fel estyniad i fusnes presennol. Gellir tyfu saladau mewn amrywiaeth o dai gwydr neu strwythurau twnelau polythen.
Gellir tyfu cnydau deiliog ar ddwyster uchel, gydag amseroedd tyfu llai, gan gyflawni 3-4.5 cilogram/m2 o gymharu â phwysau cnwd o 2.5 – 3 cilogram/m2 ar gyfer letys wedi’i dyfu mewn cae.
Mae’r dull hwn hefyd yn lleihau’r risg o blâu/clefydau, er enghraifft Pythium, a all barhau i fodoli yn y pridd rhwng cylchdroi cnydau. Mae’n haws rheoli chwyn hefyd oherwydd nid oes llawer o ofod yn y system gynhyrchu ar gyfer chwyn; gall rheoli chwyn fod yn broblemus iawn yn benodol ar gyfer berwr sy’n sensitif i chwynladdwyr, pan fydd yn cael ei dyfu mewn cae.
Os bydd salad yn cael ei fwyta yn amrwd, mae’r gallu i dyfu cnwd heb bridd yn lleihau’r risg o halogiad, gan wella marchnadwyedd cnwd glân. Mae dwyster plannu uchel hefyd yn cynyddu effeithlonrwydd rheolaethau biolegol ar gyfer rheoli plâu a chlefydau yn yr ardaloedd gwreiddio a saethu. Gellir lleihau costau llafur drwy gynhyrchu mewn pentwr neu ar uchder bwrdd, o gymharu â chnydau sy’n cael eu tyfu yn y ddaear mewn haen unigol.
Mae’r gallu i reoli’r amgylchedd tyfu yn golygu y gellir cyflawni’r effeithlonrwydd mwyaf o ran adnoddau gan gynnig yr un pryd cynnyrch unffurf a chyson iawn, gyda’r posibilrwydd o allu ei dyfu drwy’r flwyddyn gyfan. Mae ailgylchredeg dŵr a maetholion yn golygu bod y gwastraff dŵr 20 gwaith yn llai na’r hyn a welir fel arfer gyda systemau tyfu pridd, sy’n fesur diogelwch pwysig ar gyfer yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Er y gellir dechrau dulliau tyfu heb braidd ar raddfa gymharol fach gan ddefnyddio technoleg syml, gellir eu hintegreiddio’n hwylus gyda thechnoleg tyfu arloesol, gan gynnwys goleuadau deuod allyrru golau (LED) er mwyn cynyddu allbwn yn sylweddol ac effeithlonrwydd cynhyrchiant o’r maes hwn, sy’n ennill tir.
Ysgrifennwyd y ddogfen hon fel canllaw ymarferol ar gyfer tyfwyr sy’n awyddus i arallgyfeirio eu busnes gan ddefnyddio technegau hydroponeg.