Gweler y darn isod a dadlwythwch y daflen gyngor technegol lawn ar waelod y dudalen.
Sylwadau Cyffredinol
O safbwynt tyfu, bu hwn yn dymor anodd cyn belled. Cawsom saith mis o dywydd gwlyb, wedyn dau fis o dywydd sych, poeth ac mae hyn wedi achosi problemau mewn ffrwythau meddal. Ceisiwch osgoi ailddefnyddio hen fagiau er bod y cnwd presennol yn edrych yn gryf ac yn iach o bosibl, oherwydd mae’n gallu bod yn anodd osgoi’r risg o drosglwyddo clefydau a phlâu.
Casglu a Gwerthu
Wrth i’r planhigion ddwyn ffrwyth ystyriwch eich cynlluniau ar gyfer cynaeafu pob cnwd.
- Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn casglu am y tro cyntaf yn hytrach nag yn cynnig gwasanaeth Casglu eich Hunain.
- Dylai casglwyr un pwrpas, os cânt eu hyfforddi’n iawn, adael cnwd llawer taclusach na’r cyhoedd oherwydd y byddant yn tynnu’r holl ffrwythau aeddfed y gellir eu graddio fel rhai dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth neu rhai na ellir eu marchnata, bydd hyn yn arwain at lai o wastraff a chanran uwch o ffrwythau y gellir eu gwerthu
- Hefyd, drwy gasglu, tynnu a gwaredu ffrwythau na ellir eu gwerthu (h.y. ffrwythau sy’n rhy aeddfed, wedi’u difrodi ac wedi’u heintio gan blâu), byddant yn gwella glendid eich twneli i helpu i reoli plâu/clefydau; a’r mwyaf nodedig o’r rheini yw’r pryfed ffrwythau asgellog, brith.
- Er na fyddai o bosibl yn briodol tracio cynhyrchiant casglwyr unigol fel y byddech yn ei weld ar ffermydd mwy, mae’n hanfodol treulio digon o amser yn hyfforddi eich staff ar sut i gasglu a graddio ffrwythau yn enwedig os ydych yn gwerthu rhai gradd is fel cynnyrch eilaidd i wneud jamiau.
- Os yw casglu ffrwythau yn newydd ichi ac mae’r cnwd yn cael ei dyfu ar ben byrddau, dylech ddarparu troliau casglu i’r casglwyr. Am fuddsoddiad bach, gallwch ddefnyddio troliau a fwriadwyd i’w defnyddio’n wreiddiol mewn twneli er mwyn i’ch casglwyr weithio’n gyflymach ac yn fwy effeithiol â chnydau dan do a’r tu allan.
- Gallwch hefyd ddefnyddio’r rhain nid yn unig fel cymhorthion casglu ond hefyd i gludo planhigion i lawr y rhesi wrth blannu, i gario cyfarpar wrth dynnu ymledyddion, teneuo copaon neu dynnu dail cnydau
- Gall oeri (tynnu gwres y cae) hefyd fod yn her newydd os ydych yn gwerthu ffrwythau wedi’u casglu am y tro cyntaf. Dylech geisio cael eich ffrwythau i o leiaf 10°C neu, gorau oll, i 5°C neu is mewn awr ar ôl eu cynaeafu er mwyn cynnal ansawdd ac ymestyn oes y cnwd ar y silffoedd.
- Mae’n debyg y gwelwch y byddwch fel arfer yn gallu gwerthu eich ffrwythau cyn pen ychydig oriau neu o leiaf ddiwrnod neu ddau ar ôl cynaeafu, ond yn enwedig pan fo’r tywydd yn arw pan fydd llai o bobl yn dod i’r fferm, bydd gallu tynnu gwres y cae a storio ffrwythau, y bu’n rhaid eu casglu yn ystod neu cyn i’r tywydd newid, yn oer yn eich helpu i gael cynnyrch o ansawdd a pharhau i gyflenwi eich cwsmeriaid beth bynnag fo’r tywydd ac er mwyn cael cyflenwad cyson o ffrwythau wedi aeddfedu a’u casglu.
- Efallai y byddai’n werth i chi ystyried oergelloedd ar drelar, yn enwedig os na fyddwch ond yn eu hangen am gyfnod cymharol fyr o’r flwyddyn.
- Cofiwch ddiweddaru eich cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i’ch cwsmeriaid beth sydd gennych ar gael, ac ystyriwch sut gallwch barhau â rhannau eraill eich busnes – bydd caffis, llysiau wedi’u casglu’n barod neu flodau parod hefyd yn denu cwsmeriaid. O ran prisio, peidiwch â bod ofn diweddaru eich prisiau ar gyfer tymor newydd, yn enwedig os ydych cyn gwerthu cynnyrch wedi’i gasglu. Gellir codi prisiau o oddeutu £5-6/kg am ffrwythau casglu eich hunain i £7/kg i helpu i dalu costau ychwanegol y casglu. Cofiwch nad ydych chi’n cystadlu â’r archfarchnadoedd, rydych chi’n gwerthu cynnyrch gwahanol iawn!
Cnydau Eraill ar gyfer y Farchnad Casglu eich Hunain
Wrth i’r haf fynd rhagddo a chithau’n gwneud cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gallech ddechrau meddwl am gnydau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae nifer o gynhyrchion eraill yn cyd-fynd yn dda â’r model casglu eich hunain a gall ategu eich busnes mewn sawl ffordd. Gallwch blannu india-corn yn rhad ond eu gwerthu am bris uchel yn enwedig oherwydd y bydd eu gwerth yn llawer uwch na’r rhai a geir mewn archfarchnad. Gallech werthu’r mathau sylfaenol o Flodau Haul wedi’u torri am £1 am dri. Meddyliwch am ba fath o gwsmeriaid sy’n ymweld â’ch safle a pha gynhyrchion sy’n debygol o fod yn atyniadol iddyn nhw.
Gall cnydau eraill fel eirin Mair fod yn ddefnyddiol i bontio’r cyfnodau cynaeafu a gallant fod yn boblogaidd iawn hyd yn oed os na chânt ond eu tyfu mewn ardaloedd bach; i’r gwrthwyneb, mae cyrens duon a chyrens cochion yn debygol o fod yn llai atyniadol ond mae llawer o dyfwyr yn synnu faint o bobl sy’n dal eisiau defnyddio cyrens i wneud cassis, hufen iâ a jeli cyrens cochion, felly maent yn gweld y ddau gnwd hwn yn gwerthu’n fuan iawn. Mae gan y ddau gnwd (yn enwedig y cyrens cochion) y fantais ychwanegol dros gnydau ffrwythau meddal eraill sef, os caiff y cyltifarau iawn eu plannu, byddant yn aeddfedu’n gymharol hwyr a chyn belled nad yw’r tymheredd ym mis Gorffennaf a dechrau Awst yn rhy uchel, byddant weithiau’n sefyll am wythnosau a dal i fod yn farchnadwy e.e. y cyrens coch Rovado.
Bydd mwy o gynhyrchion hefyd yn cynyddu gwariant cyfartalog pob cwsmer oherwydd bod mwy o gynnyrch iddynt ddewis ohonynt. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o dyfwyr wedi gweld bod cwsmeriaid yn hoffi ymweld yn amlach y dyddiau hyn (sawl gwaith yr wythnos) i gasglu eu ffrwythau eu hunain neu i ddod i’r siop fferm gan brynu nifer gymharol fechan o ffrwythau neu lysiau ar y tro, felly sicrhewch fod gennych ddewis da o gnydau ar gael iddynt bob tro y dônt draw gydol y tymor cynaeafu. I wneud hyn â llysiau a blodau, fel gyda’r mefus, ac os yw eich mafon yn awr yn cael eu tyfu mewn swbstrad, mae gofyn plannu neu hau fwy nag unwaith er mwyn cael cynhaeaf (cyfnod gwerthu) sy’n para misoedd yn hytrach nag ond ychydig o wythnosau.
Dadlwythwch y daflen gyngor technegol lawn yma: Taflen Gyngor Technegol Nodiadau Ffrwythau Meddal - Mehefin