Mae rheoli chwyn yn effeithiol mewn pwmpenni yn hanfodol er mwyn tyfu cnwd sy’n cyflawni ei botensial i’r eithaf.
Dylid rheoli chwyn cyn ac ar ôl plannu, er y bydd yr ystod lai o driniaethau yn golygu eich bod yn annhebygol o lwyddo i dyfu cnwd cwbl lân.
Isod, rhoddir canllawiau cyffredinol ar reoli chwyn, ond argymhellir yn gryf eich bod yn ceisio cyngor agronomig gan rywun â chymwysterau priodol gydol y tymor, sydd ar gael drwy raglen Tyfu Cymru.
Disclaimer
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn. Dylai’r holl gemegolion amddiffyn cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid ymgynghori â’r argymhellion hynny cyn chwistrellu. Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU dan y ‘Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’. Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr ar risg y defnyddiwr ei hun ac nid yw Tyfu Cymru’n derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar gnydau pwmpenni yn gywir adeg ysgrifennu. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â’ch safle.
visit to your site.