Taflen Ffeithiau Rhwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru

Rheoli Clefydau Ffrwythau Perthi

Gall cyrens, eirin Mair a llus fod yn ychwanegiadau pwysig at unrhyw fusnes ffrwythau meddal, ond mae angen rheoli plâu a chlefydau’n effeithlon er mwyn cael y gorau o’ch planhigion.

Mae natur goedaidd barhaol y cnydau hyn yn golygu y gall plâu sydd wedi goroesi dros y gaeaf drosglwyddo problemau o un flwyddyn i'r llall, felly rhaid i chi fod yn wyliadwrus iawn wrth fonitro a rheoli cyn i’r materion hyn waethygu.

Mae’r canllaw hwn yn crynhoi’r prif feysydd problemus ar gyfer cnydau perthi, ond i gael unrhyw gyngor ar reoli plâu/clefydau, dylech anelu at ymgynghori ag ymgynghorydd sydd â chymhwyster BASIS – gellir trefnu ymweliadau un-i-un ar gyfer busnesau cymwys drwy raglen Tyfu Cymru i ddarparu cyngor wedi’i dargedu i chi ar dyfu ffrwythau meddal.

Yn ddiweddar, mae AHDB wedi rhyddhau dogfen o'r enw Bush Fruit Crop Walker’s Guide a all fod yn ddefnyddiol o ran adnabod ystod eang o blâu a chlefydau  mewn ffrwythau perthi a mae’n cynnwys ystod eang o ffotograffau. Gellir cael gafael arno ar-lein yma: https://ahdb.org.uk/knowledge-library/bush-fruit-crop-walkers-guide  

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb  yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn.  Dylai’r holl gemegolion amddiffyn cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid ymgynghori â’r argymhellion hynny cyn chwistrellu.  Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau ffrwythau perthi ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU dan y Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002).  Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr ar risg y defnyddiwr ei hun ac nid yw Tyfu Cymru’n derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Dylai tyfwyr fod wedi darllen yr EAMU cysylltiedig â phlaladdwr cyn ei ddefnyddio a rhaid cadw copi electronig neu gopi caled o’r EAMU ar gofnod. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar ffrwythau perthi yn gywir adeg ysgrifennu. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr geisio cyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â’ch safle.