Rhwydwaith Pwmpenni Tyfu Cymru

Rheoli Pydredd o Waelod y Ffrwyth mewn Pwmpenni

Mae Pydredd o Waelod y Ffrwyth (BER) yn broblem mae tyfwyr pwmpenni yn ei hwynebu, yn enwedig pan fyddant yn eu tyfu ar gyfer marchnadoedd hel-eich-hun. Caiff BER ei achosi gan amryw o wahanol bathogenau, gan gynnwys Fusarium a Botrytis, sy’n dechrau o graith y blodyn ar  waelod y ffrwyth ac yn lledaenu i fyny’r croen, gan olygu nad yw’r ffrwyth yn addas ar gyfer y farchnad.

Mae hyn yn fwy tebygol mewn amgylchiadau llaith pan nad yw’r blodyn yn gwahanu’n llwyr o’r ffrwyth, ac felly mae lle i bathogenau yn yr amgylchedd ymsefydlu’n gynnar. Efallai bydd pwmpenni hel-eich-hun sy’n aeddfedu’n gynnar yn cael eu gadael yn y cae am sawl wythnos tan eu bod yn mynd i’r farchnad adeg Calan Gaeaf, sy’n cynyddu’r risg o BER yn datblygu.

Mae’r pydredd yn golygu nad yw’r ffrwythau’n addas i’w gwerthu a bod y caeau’n llai deniadol i gwsmeriaid sy’n chwilio am gyfleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall hyn effeithio ar hyd at 15 – 20% o'r cnwd. Mae’r opsiynau o ran rheoli cemegol yn gyfyngedig ac yn aneffeithiol ar y cyfan.

Bydd y daflen ffeithiau hon yn archwilio rhai o'r ffyrdd o reoli Pydredd o Waelod y Ffrwyth, ac mae wedi'i drafftio i gefnogi Rhwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhwydwaith cliciwch yma: Rhwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru.

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb  yr wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn.  Canllawiau cyffredinol yw’r argymhellion hyn, ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu heffaith. Cynghorir yn gryf eich bod yn gofyn am argymhellion penodol gan gynghorydd FACTS/BASIS cymwys ac i gael cyngor manwl ar reoli clefydau a maethynnau ar eich safle. Mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â’ch safle.