Mae Tyfu Cymru wedi lansio awr bŵer ar-lein ar gyfer Rhwydwaith Pwmpenni a Sgwash. Os ydych chi'n aelod o un o'n rhwydweithiau tyfwyr, cadwch lygad am fanylion am ein cyfarfodydd ar-lein rheolaidd ar gyfer aelodau'r rhwydwaith.
Mae'r sesiynau ffocws hyn yn cael eu hwyluso gan Tyfu Cymru ynghyd ag arbenigwyr technegol ac maent yn cynnwys diweddariad ar faterion amserol yn seiliedig ar anghenion tyfwyr, ac yn caniatáu ichi rannu cwestiynau â thyfwyr ac arbenigwyr technegol. Bydd y gwasanaeth yma’n golygu eich bod yn gallu parhau i gael cefnogaeth drwy’r rhwydwaith. Hoffech ymuno â rhwydwaith? Cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk
Gellir lawr lwytho'r nodiadau technegol llawn yma: Taflen Cyngor Technegol - Cyfnod Hwb i'r Bwmpen – Mehefin
Dylai plannu pwmpenni fod wedi gorffen am eleni - boed drwy drawsblannu neu dyllu - a bydd y cnwd wedi sefydlu'n dda. Mae plannu wedi bod yn anodd eleni gyda chyfnodau sychion - rhywbeth i'w osgoi yw plannu pan mae'n boeth iawn a sych. Mae rhai tyfwyr sydd wedi drilio'n uniongyrchol wedi gweld egino darniog, yma ac acw, ble mae'r caeau wedi eu gadael i sychu. Mae hyn yn gadael gofod i blannu hwyrach yn y tymor. Os nad yw eich plannu cyntaf wedi cydio hwyrach y bydd modd drilio eto. Ar ôl i chi blannu, dyfriwch yn dda i annog tyfiant iach yn y gwreiddiau. Os ydych yn drilio, hwyrach y gallwch ddyfrio'r un pryd â'r dril neu gallwch chwistrellu dŵr dros y cnwd gyda thanc a thaflwr slyri. Yn dibynnu ar eich pridd efallai y cyrhaeddwch chi ddŵr tua 10-15cm i lawr, felly dylid dyfrio ychydig yn unig i bontio rhwng lleithder y pridd ag wyneb y tir. Bydd leithder ar wyneb y pridd hefyd o fudd i'r chwynladdwyr weithio'n iawn i gyfyngu ar y chwyn a ddaw i'r golwg ar ôl i chi fod yn plannu.
Bydd blodau'n debygol o ymddangos o ddechrau Mehefin ymlaen. Mi welwch yn gyntaf ffrwydrad cynnar o flodau gwryw gyda'r rhai benyw yn dilyn tuag wythnos i bythefnos wedyn.
Mae llwydni powdrog yn debygol o fod yn fygythiad o tua mis Gorffennaf ymlaen. Fe ddylech gynllunio i gael gwared ohono o'ch cnwd tan o leiaf mis Awst. Wedi hynny gallwch ei ddefnyddio i ddifa dail y cnwd ac felly'n rhoi mwy o olau haul i'r ffrwythau cael datblygu. Er ei fod yn gwbl organig, nid yw deucarboniad potasiwm ond yn effeithiol i gael gwared â phroblemau yn hytrach na gwarchod rhagddynt, felly fe ddylech ystyried triniaethau traddodiadol yn gyntaf. At ei gilydd, mae gan driniaethau addas tua 3 diwrnod neu lai o gyfnod i fedi, felly gallwch eu defnyddio'n ddiogel bryd hynny. Gall Signum fod braidd yn ddrud, ond mae Amistar, Takumi a Tallius yn werth eu hystyried - am restr lawn o ddewis cemegol gweler taflen ffeithiau Tyfu Cymru ar lwydni powdrog. Fe ddylech hefyd ddefnyddio amrywiaeth o godau FRAC i sicrhau nad oes ymwrthedd yn datblygu. Byddwch yn ofalus iawn gyda ffwngleiddiaid - mae nifer o opsiynau ar gael ar gyfer eu defnyddio ar gourgettes ond heb eu cofrestru ar gyfer pwmpenni..
Wrth i'r cnwd o bwmpenni ddod yn ei flaen bydd y risg o chwyn yn parhau tan fydd mantell o ddail wedi sefydlu. Bydd Blodau'r Domen, sydd yn broblem gyffredin ym Mhrydain, yn ffynnu'n dda yn y sychder a gall fygu'r cnwd i gyd. Bydd y Ganwraidd Goesgoch a chwyn hwyr eraill yn dod yn fwyfwy o broblem wrth i'r cnwd dyfu. Mae hen wely hadu yn lle da i gael cychwyn cynnar (er mwyn cael gwared ag unrhyw chwyn ifanc, fe ddylech anelu at fedi ddwywaith ac o leiaf dair wythnos cyn plannu), a bydd chwynnogl law yn ddefnyddiol i reoli chwyn rhag iddynt sefydlu eu hunain yn rhy dda. Ond, ar raddfa fawr, gall hyn fod yn gostus. Fe fyddai chwynnogl fecanyddol, wedi ei gosod i 15cm, yn effeithiol iawn ar gyfer plannu strwythuredig da.
Gellir lawr lwytho'r nodiadau technegol llawn yma: Taflen Cyngor Technegol - Cyfnod Hwb i'r Bwmpen – Mehefin
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a'r argymhellion yn y nodiadau uchod. Dylid defnyddio pob cemegyn gwarchod cnydau yn unol â'r argymhellion ar eu labeli a dylid eu darllen a'u deall cyn cychwyn chwistrellu. Hwyrach nad yw rhai o'r chwynladdwyr a nodir uchod yn cael eu cefnogi gan argymhellion label ar gyfer eu defnyddio ar bwmpenni, ond eto'n iawn i'w defnyddio ym Mhrydain yn unol â'r Extension of Authorisation for Minor Use (EAMU) o dan ‘The Revised Long Term Arrangements For Extension Of Use (2002)’. Yn yr achosion hynny, defnyddir y chwynladdwyr ar risg y defnyddiwr ac nid yw Tyfu Cymru'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a achosir o'r fath ddefnydd. Mae unrhyw gyfeiriad at gymeradwyaeth ar-label a defnydd o chwynladdwyr EAMU ar gnydau pwmpenni yn gywir ar adeg eu hysgrifennu. Gall y rhain newid a gall unrhyw gymeradwyo ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r gymeradwyaeth cyn defnyddio'r chwynladdwr dan sylw. Os oes amheuaeth dylai'r tyfwr ofyn cyngor ymgynghorydd cymwys BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim i dyfwyr dilys drwy gynllun Tyfu Cymru. Cysylltwch os gwelwch yn dda i drefnu cyfarfod - mae cyngor dros e-bost/ffôn hefyd ar gael.