Tra bod llawer o gyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio, mae’n debygol i barhau i fod yn her i dyfwyr hyd y gellir gweld – yn arbennig felly i’r rhai hynny sy’n gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid lle mae angen i nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’r safle fod yn uchel er mwyn gwneud elw da. Bu gwerthiant ffrwythau PEH yn gryf yn ystod yr haf, gyda llawer o dyfwyr yn cyrraedd yn agos at eu gwerthiant arferol. Mae llawer o fanteision gwerthu pwmpenni PEH – gweithgareddau yn yr awyr agored, mynediad at gaeau mawr agored – yn golygu y gellir ymdrin â mesurau cadw pellter cymdeithasol yn well nag o dan do. Fodd bynnag, bydd yn parhau yn angenrheidiol i wneud rhai addasiadau er mwyn sicrhau diogelwch a mwynhad y cwsmeriaid tra maen nhw ar y safle.
Mae gan lawer o dyfwyr PEH brofiad o hysbysebu eu safleoedd i gwsmeriaid drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd neges eglur yn dweud eich bod chi ar agor ar gyfer busnes, gydag unrhyw newidiadau yr ydych chi wedi’u cynllunio am eleni, yn helpu i ddenu ymwelwyr i’ch safle. Gall rhai cwsmeriaid fod yn bryderus ynglŷn â pharhausrwydd Covid ar gynnyrch ffres, ond y cyngor diweddaraf yw nad oes unrhyw risg o gael haint gyda chynnyrch ffres[1]. Yn ogystal, gallwch chi wneud datganiadau eglur ynglŷn â’ch paratoadau Covid, fel bod eich cwsmeriaid yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan maen nhw’n ymweld â chi.
Yn ogystal, gallwch chi ystyried system archebu i helpu rheoli ymweliadau. Bydd hyn yn osgoi gorlenwi, a gwella hyder y cwsmer o allu ymweld â’ch safle heb gael eu gyrru yn ôl wrth y giât. Mae llawer o dyfwyr PEH yn gweld bod y cyhoedd wedi dod yn fwy cydymdeimladol o giât fferm gaeedig pan mae’r fferm yn llawn, a bydd y gallu i archebu yn helpu rheoli hyn. Gallech chi gynllunio am slotiau amser ar gyfer ymweliadau cwsmeriaid fel y gallwch chi reoli faint o bobl sydd gennych chi ar y safle tra’n darwahanu ymweliadau er mwyn rheoli’r niferoedd ar gyfer sicrhau cadw pellter cymdeithasol. Fel arfer, bydd cwsmeriaid yn treulio oddeutu 20-40 munud ar y safle, ond gall hyn fod yn hirach os oes gennych chi weithgareddau eraill. Gallwch chi ddymuno ystyried niferoedd cyfyngedig o bartïon er mwyn cadw eich safle rhag dod yn orlawn.
Gallwch chi ddymuno i gwsmeriaid dalu blaendal ymlaen llaw wrth archebu a ellid ei ddefnyddio yn erbyn beth bynnag y maen nhw’n ei brynu ar y safle. Eglurwch beth y mae tocyn unigol yn ei gynnwys – gallech chi werthu tocynnau ar gyfer unigolion (gan godi yn wahanol am oedolion a phlant), caniatáu plentyn am ddim gyda phob tocyn oedolyn, neu docynnau teulu ar gyfer grwpiau o faint arbennig. Bydd hyn yn helpu i sicrhau isafswm incwm, tra’n lleihau’r risg o bobl yn peidio ag ymddangos. Os ydych chi’n gofyn am flaendal, eglurwch beth yw’r telerau a’r amodau, fel a yw’r archeb yn ad-daladwy neu’n drosglwyddadwy os yw rhywun wedi archebu ar ddiwrnod pan mae’r tywydd yn anffafriol.
Os nad oes gennych chi wefan, gallech chi ystyried defnyddio un o’r platfformau sydd ar gael i werthu tocynnau. Yn gyffredinol, mae gan y rhain ategion hwylus fel y gallan nhw gysylltu â’ch platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Dylech chi ystyried y siwrnai gyfan y bydd cwsmer yn ei chymryd unwaith y bydd wedi cyrraedd ar eich safle, a gwneud addasiadau lle y gallwch chi. Gallech chi ystyried y canlynol:
Ar gyfer ffrwyth meddal, mae tyfwyr wedi bod yn gwerthu cynhwysydd i gwsmeriaid ei lenwi o’i gyferbynnu â’r system arferol o dalu am bwysau’r ffrwyth a gasglwyd. Tra gall hyn fod yn anodd ar gyfer pwmpenni, gallech chi ddymuno ystyried dulliau eraill o werthu yn hytrach na phwyso yn unig. Er enghraifft, gallai cwsmeriaid ollwng pwmpenni drwy dyllau a raddiwyd er mwyn galluogi gwerthu yn ôl maint, neu drwy hwpiau o feintiau gwahanol ar ben ffyn. Fel rhan o leihau cysylltiad â chwsmeriaid, ystyriwch ddefnyddio system dalu heb arian parod – gellir gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r systemau sydd ar gael ar daflen ffeithiau Tyfu Cymru ynglŷn â systemau talu digyffwrdd.
Ar gyfer ffrwythau meddal, mae tyfwyr wedi bod yn gwerthu cynhwysydd i gwsmeriaid o’i gyferbynnu â’r system arferol o dalu am bwysau
Gellir gwerthu pecynnau cerfio plastig (ar y dde) fel rhan o weithgareddau cerfio pwmpenni fel offer defnydd unigol na fyddan nhw angen eu diheintio rhwng cwsmeriaid. Bydd meinciau sydd wedi’u gosod ar gyfer cadw pellter cymdeithasol hefyd yn helpu. Er mwyn rhoi amser i lanhau gorsafoedd, gallech chi ystyried slotiau amser i ddarwahanu’r galw, a gellir cynnwys y rhain fel dewis ychwanegol os ydych chi’n gofyn i gwsmeriaid archebu ar-lein ymlaen llaw.
[1] https://ec.europa.eu/food/sites/food/files/safety/docs/biosafety_crisis_covid19_qandas_en.pdf