Gweler y trosolwg isod a dadlwythwch y daflen gyngor technegol lawn ar waelod y dudalen.
Mae amrywiadau mefus cynnar fel Christine a Vibrant yn tyfu o dan dwneli ac yn cael eu casglu yn awr, fel y mae planhigion bythol-ffrwytho o amrywiadau fel Murano, a ddygwyd ymlaen o’r llynedd ac maen nhw wedi bod yn tyfu o dan orchudd ers mis Mawrth. Mewn cyferbyniad, ac eithrio Christine a phlanhigion cyltifarau eraill, fel Symphony sydd wedi bod o dan wlân ers rhai wythnosau, er mwyn cyflymu eu cynhaeaf a darparu gwarchodaeth rhag rhew, bydd yn cymryd 7-10 diwrnod cyn i’r cynhaeaf ddechrau. Bydd y planhigion cynharaf (yn gynnar ym mis Mawrth) o blanhigion cansen hir yr amrywiadau mafon sy’n ffrwytho yn gynnar yn yr haf, fel Tulameen a’r planhigion cansen hir yn dechrau mewn wythnos neu ddwy yn y rhan fwyaf o achosion, ynghyd â’r cansenni cyntaf o fafon sy’n ffrwytho ac sy’n cael eu gwarchod gan dwneli.
Mae planhigion cansen hir a blannwyd yn hwyr ym mis Mawrth/yn gynnar ym mis Ebrill yn yr awyr agored yn blodeuo yn awr, gyda’r cynhaeaf oddeutu 3-4 wythnos i ffwrdd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae plannu olaf y planhigion mafon cansen hir sy’n ffrwytho yn yr haf a’r cansenni cyntaf wedi cael ei wneud. Mae planhigion diweddaraf Glen Ample yn cael eu defnyddio er mwyn darparu ffrwythau ym mis Awst.
Mae rhai tyfwyr yn plannu amrywiadau cansen hir sy’n ffrwytho yn yr haf, fel Glen Ample, Glen Dee neu Octavia yn gynnar ym mis Mehefin, ond gall y rhain fod yn anodd iawn i’w sefydlu (hyd yn oed os ydyn nhw’n cael eu plannu yn yr awyr agored), oni bai bod modd dyfrio’r planhigion uwch eu pennau yn ddibynadwy o’r amser pan maen nhw’n cael eu plannu tan fod y planhigion wedi sefydlu yn llawn. Mae hynny yn arbennig o wir os yw’r tywydd yn braf a phoeth, fel y gellir osgoi dysychiad y cansenni, y blagur sydd newydd agor neu ganghennau ochrol y blodau sy’n ymddangos. Mae cansenni hir gyda gwraidd noeth a rhai sydd wedi’u cynhyrchu mewn cynwysyddion sy’n cael eu rhoi mewn potiau yn llawer mwy tueddol o ddioddef o’r broblem hon, oherwydd ei fod yn cymryd rhywfaint o amser i’w systemau gwraidd sefydlu yn y compost newydd neu mewn mwy o gompost a gallu darparu digon o ddŵr ar gyfer y cansenni a’r deiliant.
Mae diddordeb cryf mewn gwerthu wrth giât y fferm, a dylech chi feddwl ynglŷn â sut i reoli’r cyswllt gyda’ch cwsmeriaid ar eich safle chi. Mae rhai tyfwyr yn gweithredu system gyrru i mewn, lle nad oes angen i gwsmeriaid adael eu ceir pan maen nhw ar y safle. Os ydych chi’n tyfu ar gyfer casglu eich hun, efallai y byddwch chi’n dymuno ystyried gwerthu basgedi o ffrwythau a gasglwyd yn barod, nes bod y cyfyngiadau symud wedi cael eu hymlacio. Bydd cyswllt ar-lein i hysbysu’ch cwsmeriaid ynglŷn â beth yr ydych chi’n ei werthu – a sut gall gwsmeriaid ei brynu – yn hanfodol er mwyn rhoi gwybod i’ch cwsmeriaid bod eich cynnyrch yn parhau ar gael. Efallai y gallwch chi ystyried system archebu ymlaen llaw, neu drwy wahoddiad yn unig, er mwyn rheoli’r llif o gwsmeriaid i’ch safle. Efallai eich bod yn dymuno ystyried system talu efo cerdyn er mwyn osgoi ymdrin ag arian parod - gweler taflen ffeithiau Tyfu Cymru ynglŷn â systemau talu digyffwrdd er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gellir integreiddio’r rhain i mewn i’ch busnes.
Erbyn hyn, dylai fod gennych chi raglen gadarn ar gyfer reoli plâu, er mwyn lliniaru’r risg i’ch cnydau. Gwelir isod amrediad o blâu tebygol – mae Tyfu Cymru wedi cynhyrchu sawl taflen ffeithiau i’ch helpu chi i adnabod plâu ar eich cnwd, dylech chi ymgynghori â’r rhain, ochr yn ochr â’r nodiadau isod.
Gellir rheoli sawl un o’r prif blâu o fefus a mafon yn effeithiol drwy ddefnyddio bioreolaethau, ond ni ellir rheoli’r cyfan. Sicrhewch eich bod yn dilyn argymhellion y cyflenwyr wrth i chi eu defnyddio. Yn benodol, ceisiwch eu defnyddio gyda chnydau ar y diwrnod y maen nhw’n cyrraedd, er mwyn sicrhau yr effeithiolrwydd mwyaf. Ar wahân i nematodau, mae angen defnyddio’r lleill bob 10-14 diwrnod, ac felly sefydlwch archeb gylchol gyda’ch cyflenwr er mwyn eich helpu chi i amseru’r defnydd. Mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw effeithiau niweidiol y gall plaladdwyr confensiynol yr ydych chi’n bwriadu eu defnyddio ar eich cnydau ei gael ar y gweithredwyr bio-reoli yr ydych chi’n bwriadu eu defnyddio. Gall gwefan y cyflenwyr bio-reolaeth yn aml ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chydnawsedd y plaladdwyr gyda’r gwiddon, y pryfed a’r nematodau ysglyfaethus gydag amrediad eang o blaladdwyr.
Mae cyngor un i un yn parhau i fod ar gael yn rhad ac am ddim drwy’r prosiect. Cysylltwch â ni os hoffech chi fanteisio ar hyn.
Ymwadiad
Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a’r argymhellion a roddir yn y nodiadau hyn. Dylid defnyddio’r holl gemegau gwarchod cnydau yn unol ag argymhellion y labeli, a dylid eu darllen cyn chwistrellu. Efallai nad oes argymhellion ar rai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni, ond maen nhw’n cael eu caniatáu drwy Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan ‘Y Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’. Yn yr achosion hyn, risg y defnyddiwr yw defnyddio’r plaladdwr ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled na difrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaethau ar y labeli ac EAMUau ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar gnydau pwmpenni yn gywir ar adeg yr ysgrifennwyd nhw. Gall y rhain newid a gellir tynnu’r gymeradwyaeth ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio’r cymeradwyaethau cyn defnyddio’r plaladdwyr. Os ydych chi o dan unrhyw amheuaeth, dylech chi ofyn am gyngor gan gynghorydd sydd wedi cymhwyso mewn Cynllun Arolygu Safonau Agrocemegol Prydain – mae hwn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntment os gwelwch yn dda – mae cyngor ar gael hefyd drwy e-bost/dros y ffôn.