Paratoi i blannu

Fe ddylech chi fod yn paratoi i blannu cnydau eleni erbyn hyn. Os nad ydych chi wedi tyfu pwmpenni o'r blaen, mae’n syniad da i chi blannu eginblanhigion wedi’u trawsblannu yn hytrach na rhigoli (drilling). Mae gennych chi amser i archebu’r rhain gan gyflenwr ffrâm brifiant os gwnewch chi hynny'n sydyn, a dylech geisio eu plannu yn ystod wythnos olaf mis Mai. Ar ôl i'r planhigion wedi’u trawsblannu (transplants) gyrraedd, bydd angen eu caledu cyn eu plannu – dylech eu cysgodi a’u gwarchod rhag rhew am ychydig ddyddiau cyn eu plannu.

Mae planhigion wedi’u trawsblannu yn gallu cael eu plannu mewn blychau planhigion neu flychau cabaets, neu mewn rhigol sy’n cael ei orchuddio ar ôl i’r planhigion gael eu plannu. Dylai planhigion wedi’u trawsblannu gael eu plannu 0.9m oddi wrth ei gilydd, ar hyd rhesi sydd 1m ar wahân. Gallwch hefyd luosogi'ch planhigion eich hun drwy ddefnyddio hadau o dan dwneli, a’u blaguro mewn blychau modiwl sy’n cynnwys 126 o slotiau. Dylai planhigion gael eu plannu yn wynebu am i lawr, a dylid darparu gwres o hyd at 23°C ar eu cyfer os yw’n bosib. Bydd angen eu dyfrio unwaith neu ddwywaith y dydd er mwyn eu hatal rhag sychu, yn enwedig pan fyddan nhw wedi tyfu’n fwy. Dylid cynnwys porthiant bob tro y byddwch chi’n dyfrio – bydd porthiant tomato neu fefus safonol yn gwneud y tro – ar gyfradd o 1 g/L o ddŵr. Bydd y rhain yn barod i gael eu plannu gydag oddeutu 1 gwir ddeilen (true leaf), ond byddwch am osgoi planhigion hirgoes gan fod y rhain yn gallu cael eu difrodi’n hawdd gan y gwynt.

 

Wrth rigoli, dylech geisio sicrhau 4 – 5k o hadau fesul erw o ran dwysedd. Mae rhwystro chwyn rhag gordyfu yn gallu bod yn haws gyda dwysedd uwch, ond mae perygl hefyd y bydd y ffrwythau’n llai o ran maint. Fe gewch chi gnydau tebyg (o ran pwysau gros) gyda dwysedd uchel a dwysedd isel, ond bydd y ffrwythau’n llai o faint gyda dwysedd uwch – mae’n haws gwerthu ffrwythau mawr am bris uwch! Wedi dweud hynny, bydd amrywiaethau llai yn aeddfedu’n gynt, a bydd ganddyn nhw liw mwy cyfartal a dwfn na ffrwythau mawr. Efallai y byddwch chi hefyd am ostwng y dwysedd er mwyn gwneud pethau’n haws i gwsmeriaid hel-eich-hun. Bydd angen pridd cynnes ar hadau er mwyn blaguro, ond gallwch baratoi ar gyfer wythnos olaf mis Mai. Mae’n bosib rhigoli hadau gyda pheiriant plannu indrawn sydd wedi’i addasu er mwyn sicrhau bwlch o 30” gydag olwynion 72”.

 

Gofal ar ôl plannu

Gwnewch yn siŵr bod y cnydau’n cael digon o ddŵr ar ôl eu plannu. Gellir rhoi mesurau dyfrio ar waith drwy ddefnyddio bŵm silwair neu dâp diferu, ond gwnewch yn siŵr bod y tâp diferu’n cael ei ddefnyddio ar y planhigion eu hunain, oherwydd fydd y gwreiddiau ddim wedi datblygu.  Byddwch yn ofalus gyda chynnyrch rheoli plâu ar gyfer cwningod, colomennod a gwlithod ar ôl plannu – bydd defnyddio pelenni fferig ffosffad yn help gyda gwlithod. Ar gyfer ardaloedd mawr, ystyriwch ddefnyddio micro-gnu (microfleece) pan fydd y planhigion yn ifanc. Dylech weld llawer o dwf o fewn 14 diwrnod, ond gofalwch beidio â rhoi gormod o ddŵr neu bydd perygl y bydd y cnwd yn tyfu gormod. Dylech geisio archwilio’r pwmpenni bob wythnos i weld sut maen nhw’n datblygu, a’u monitro i sicrhau na fydd clefyd yn datblygu.

 

Rheoli Pridd

Dylech ystyried cynnal dadansoddiad pridd bob tair blynedd. Gan ddefnyddio’r canlyniadau mae’n bosib defnyddio adran Llysiau RB209 (https://ahdb.org.uk/knowledge-library/rb209-section-6-vegetables-and-bulbs), sy’n sôn am bwmpenni a chorbwmpenni, i ddatblygu cynllun pwrpasol i reoli gwrtaith ar gyfer eich tir. Os nad oes gennych chi ganlyniadau dadansoddiad pridd, dylai 400 kg/ha o wrtaith cyfansawdd cyffredinol (e.e. 10-10-20, 15-15-15 neu 17-17-17) fod yn ddigon. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfuniad o wrteithiau unigol, yn enwedig gyda phridd â lefelau uchel o ffosffad. Dylai pH y pridd fod rhwng 6 a 7.5, a 7.5 sy’n rhoi’r amodau mwyaf ffafriol.  Os yw’r pridd yn rhy asidig, gallwch galchu’r tir cyn plannu. Mae calch ar ffurf pelenni yn gallu cael ei ledaenu gyda gwasgarwr gwrtaith arferol, ac mae’n gweithio’n llawer cyflymach na chalch mâl. Bydd angen contractiwr i ddefnyddio calch mâl fel arfer, ac mae’n gallu cymryd hyd at flwyddyn i godi lefel pH y pridd. Mae’n annhebygol y bydd cyfyngiad o ran sylffwr, ond os oes gennych chi broblemau gyda lefelau sylffwr isel mewn cnydau eraill, mae defnyddio sylffad amonia a sylffad potash yn gallu bod yn help, fel rhan o gynllun rheoli gwrtaith arferol. Mae pwmpenni yn gallu tyfu gormod os byddan nhw’n cael gormod o fwyd, sy’n arwain at risg o lefelau uwch o lwydni blodiog a chyfran fwy o flodau gwrywaidd. 

 

Rheoli Chwyn

Dylech sicrhau mai rheoli chwyn yw’ch prif nod yn nyddiau cynnar y tymor – mae chwyn heb eu rheoli yn gallu tyfu’n gyflymach na’r cnwd, sy’n golygu eu bod yn cystadlu am olau a maetholion.  Cyn plannu dylech geisio cael gwely hadau clir (sterile), gyda’r chwyn wedi’u llosgi gan ddefnyddio Roundup – gwnewch yn siŵr bod y gymysgedd yn gywir, oherwydd mae rhai yn gorfod cael eu gwneud dri neu bum diwrnod cyn plannu. Mae plannu ar lefelau dwysedd uwch yn gallu bod yn help i reoli chwyn yn well, ond mae angen cael cydbwysedd rhwng hynny a maint y ffrwythau.  Ar ôl plannu, dylech ddechrau defnyddio cynnyrch rheoli chwyn yn syth, er mwyn atal chwyn rhag magu gwreiddiau. Mae’n bosib defnyddio Flexidor 125 o dan EAMU (0883/20) ar gyfradd o 500 ml/ha yn syth ar ôl plannu, ond gallwch hefyd ddefnyddio Gamit ar gyfradd o 0.12 ml/ha (EAMU 2831/15) neu Kerb Flow ar gyfradd o 1.1 L/ha (2416/08) er mwyn rheoli chwyn am dair neu bedair wythnos ar ôl plannu. Er na ddylid defnyddio Stomp Aqua ar blanhigion cucurbit, gellir defnyddio Wing-P o dan EAMU (0619/18) i reoli chwyn ar stribedi o dir, ond gofalwch nad ydych chi’n chwistrellu gormod ar y rhesi, a pheidiwch â’i ddefnyddio o gwbl os oes siawns o law.  Mae chwynladdwyr hirdymor yn gallu cymryd amser i gael effaith, ond mae’n bwysig i chi ddelio â chwyn yn gynnar cyn iddyn nhw fagu gwreiddiau, oherwydd mae’n gallu bod yn ddrud iawn eu tynnu â llaw.

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a'r argymhellion yn y nodiadau hyn yn gywir.  Dylai’r holl gemegion diogelu cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid darllen y label cyn chwistrellu.  Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni, ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan y ‘Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’.  Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr yn ôl risg y defnyddiwr ei hun, ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar gnydau pwmpenni yn gywir ar adeg ysgrifennu’r wybodaeth hon. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr ofyn am gyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad. Mae’n bosib cael cyngor dros e-bost/y ffôn hefyd.