Llwydni Blodiog

Llwydni blodiog (powdery mildew) yw’r prif glefyd pwmpenni sy’n achosi pryder yn ystod dyddiau cynnar y tymor, ac mae’n gallu bod yn broblem o fis Mehefin ymlaen, gan ddechrau wrth i’r planhigyn flodeuo. Mae haint ffwngol gwyn blodiog ar y dail yn gallu lledaenu ar draws wyneb y ddeilen nes bydd y ddeilen yn cwympo. Yn sgil hynny bydd llai o siwgr ar gael i’r ffrwyth wrth iddo dyfu, ac felly bydd y ffrwyth yn llai o ran maint. Pan fyddwch chi’n archwilio’r cnydau, cadwch lygad am arwyddion o lwydni blodiog ar hyd y canopi i gyd – mae’r clefyd yn fwy tebygol o ddatblygu mewn llefydd cynnes yn y cysgod, o amgylch y dail hŷn yn rhan isaf y canopi fel arfer. Mae pob math o gynnyrch ar gael i reoli llwydni blodiog (wedi’u nodi isod), ac mae triniaeth deucarbonad gradd-bwyd ar gael i dyfwyr planhigion organig. Dydy triniaeth deucarbonad ddim yn cynnig gwarchodaeth yn y tymor hir, felly dim ond y clefyd sy’n bresennol pan fydd y driniaeth yn cael ei defnyddio sydd yn cael ei drin. Mae llwydni blodiog yn llai o broblem yn nes ymlaen yn y tymor ar ôl i’r ffrwyth ddechrau aeddfedu, oherwydd bydd golau yn cyrraedd y ffrwyth wrth i’r planhigyn fwrw ei ddail.

Pydredd Eilaidd

Yn ogystal â llwydni blodiog, mae pydredd eilaidd (secondary rots) yn gallu achosi pryder.  Os yw’r dail wedi’u difrodi, mae perygl y bydd Botrytis yn datblygu ar y dail. Ond, gellir defnyddio chwistrelliad o ffwngladdwr addas (e.e. Signum) i reoli datblygiad y clefyd os oes perygl sylweddol i’r cnydau.

Mae pydredd ar ffrwythau – naill ai yn sgil clwyfau neu graith ar waelod y ffrwyth – yn gallu achosi problem yn hwyrach yn y tymor.  Mae rheoli lefelau maeth calsiwm yn ofalus yn gallu bod yn ddefnyddiol i gryfhau’r ffrwyth, er mwyn iddo allu gwrthsefyll pydredd a’i rwystro rhag datblygu.

Os bydd y ffrwythau’n cael eu casglu, ni ddylid eu golchi. Yn hytrach na hynny, dylid eu storio mewn lle cynnes (ambient) er mwyn eu gwella heb eu hoeri. Mae ffrwythau’n gallu cael eu storio fel hyn am fisoedd lawer heb ddifetha, sy’n golygu bod modd eu gwerthu yn y gwanwyn.

Lawr lwythwch y daflen cyngor: Opsiynau i reoli llwydni blodiog ar bwmpenni

 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a'r argymhellion yn y nodiadau hyn yn gywir.  Dylai’r holl gemegion diogelu cnydau gael eu defnyddio’n unol â’r argymhellion ar y label, a dylid darllen y label cyn chwistrellu.  Efallai na fydd rhai o’r plaladdwyr a grybwyllir yn y nodiadau hyn yn cael eu cefnogi gan argymhellion ar labeli ar gyfer eu defnyddio ar gnydau pwmpenni, ond eu bod yn cael eu caniatáu drwy’r Estyniad o Ganiatâd ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMU) yn y DU o dan y ‘Trefniadau Hirdymor Diwygiedig ar gyfer Ymestyn Defnydd (2002)’.   Yn yr achosion hyn, defnyddir y plaladdwr yn ôl risg y defnyddiwr ei hun, ac nid yw Tyfu Cymru yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnydd o’r fath. Mae’r cyfeiriadau at gymeradwyaeth ar labeli ac EAMU ar gyfer defnyddio plaladdwyr ar gnydau pwmpenni yn gywir ar adeg ysgrifennu’r wybodaeth hon. Gall y rhain gael eu newid a gallai cymeradwyaeth gael ei thynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Cyfrifoldeb y tyfwr yw gwirio cymeradwyaeth cyn defnyddio plaladdwyr. Os bydd unrhyw amheuaeth, dylai tyfwr ofyn am gyngor gan gynghorydd sy’n gymwys dan BASIS - mae hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer tyfwyr cymwys drwy raglen Tyfu Cymru, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad. Mae’n bosib cael cyngor dros e-bost/y ffôn hefyd.