Taflenni Ffeithiau: Plâu ffrwythau meddal
Fel rhan o'r gefnogaeth barhaus sydd ar gael i dyfwyr ffrwythau meddal Cymru trwy rwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru, rydym wedi paratoi rhai taflenni ffeithiau defnyddiol ar rai o'r plâu cyffredin a geir mewn ffrwythau meddal a hefyd rhai o’r cynnyrch bioreoleth sydd ar gael. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn holi un o gynghorwyr hyfforddedig Cynllun Arolygu Safonau Agrocemegol Prydain (BASIS) cyn bwrw ymlaen.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Rwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru cliciwch yma: Rhwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru.
Taflen Ffeithiau: Plâu sy’n sugno ar ffrwythau meddal
Yn y daflen yma mae rhai o’r plâu cyffredin sy’n cael eu canfod ar gnydau ffrwythau meddal. Os byddwch yn canfod rhai, cysylltwch ag un o gynghorwyr hyfforddedig y Cynllun Safonau Agrocemegol Prydain (BASIS) ynghylch sut i fynd i’r afael â nhw.
Y plâu sy’n sugno yw’r rhieni sy’n brathu gan ddefnyddio rhannau arbennig o’u cegau i fwyta noddion a chelloedd planhigion. Yn aml, mae’r plâu hyn yn gysylltiedig â dail sy’n cyrlio, ffrwythau ystumedig a gwyw mewn planhigion.
Dadlwythwch y daflen ffeithiau yma: Taflen Ffeithiau: Plâu sy’n sugno ar ffrwythau meddal
Taflen Ffeithiau - Plâu Eraill Ffrwythau Meddal
Yn y daflen yma mae rhai o’r plâu cyffredin sy’n cael eu canfod ar gnydau ffrwythau meddal. Os byddwch yn canfod rhai, cysylltwch ag un o gynghorwyr hyfforddedig Cynllun Safonau Agrocemegol Prydain (BASIS) i gael gwybod sut i fynd i’r afael â nhw.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau cerddwyr cnydau’r Bwrdd Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn: https://horticulture.ahdb.org.uk/publication-category/crop-walkers-guides?page=2
Dadlwythwch y daflen ffeithiau yma: Taflen Ffeithiau: Plâu Eraill Ffrwythau Meddal
Taflen Ffeithiau - Bioreolaeth Ffrwythau Meddal
Isod, mae rhai o’r ffurfiau cyffredin o fioreolaeth sydd ar gael mewn cnydau o ffrwythau meddal. Er mwyn eu defnyddio’n effeithiol, dylech holi un o gynghorwyr hyfforddedig Cynllun Arolygu Safonau Agrocemegol Prydain (BASIS) ynghylch sut i fynd i’r afael â nhw.
Ar ôl i chi dderbyn cynnyrch bioreoleth, mae’n well eu defnyddio’n syth. Peidiwch ag oedi cyn eu defnyddio. Cadwch y cynnyrch mewn lle sych yn unol â chyfarwyddiadau’r label. Mae angen cadw’r rhan fwyaf o’r pecynnau ar i fyny er mwyn gwneud yn siŵr eu bod wedi cymysgu’n dda.
Dadlwythwch y daflen ffeithiau yma: Taflen Ffeithiau: Plâu Eraill Ffrwythau Meddal